English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Ynglyn â ni - Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn asiantaeth statudol sy’n darparu amrediad eang o wasanaethau i’r Llysoedd ac i’r System Cyfiawnder Troseddol.

Gweledigaeth - Parhau i fod yn un o’r Ymddiriedolaeth Prawf gorau o ran perfformiad yng Nghymru a Lloegr gan gynyddu hyder y cyhoedd mewn cyfiawnder troseddol, lleihau aildroseddu a diogelu’r cyhoedd, oherwydd ein rhagoriaeth o ran asesu troseddwyr, cynllunio dedfrydau a darparu ymyriadau a chanlyniadau cynlluniau dedfrydu.

Gwerthoedd - Y gwerthoedd sy’n cyfrif ac sy’n ymwneud â phopeth a wnawn:
• gweithio mewn ffordd sy’n agored, onest, teg a gweddus
• gwneud popeth hyd eithaf ein gallu, ar y cyd ac fel unigolion
• meithrin ffydd y cyhoedd yn ein gallu i ddiogelu pobl rhag niwed difrifol
• ymdrin â staff fel unigolion a’u hysgogi i ddarparu gwasanaethau rhagorol
• diogelu dioddefwyr troseddau difrifol a’u hysbysu am yr hyn sy’n digwydd
• delio â throseddwyr yn broffesiynol, er mwyn eu helpu i ddod yn ddinasyddion cyfrifol, ac arwain bywydau deddfgadwol, cynhyrchiol ac iach.

Nodau

• Bydd Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn dal i weithredu fel sefydliad arloesol a mentrus sy’n darparu gwasanaethau o ansawdd a gafodd eu comisiynu gan y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol ym meysydd:
> Rheoli Troseddwyr
> Ymyriadau

• Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyfrannu at wneud cymunedau’n lleoedd diogelach i'r rhai sy’n byw ac yn gweithio ynddynt ac yn ymweld â nhw trwy gynyddu ad-dalu'r gymuned mewn ffordd amlwg, cefnogi dioddefwyr troseddau difrifol a chael cymunedau lleol i gyfranogi yn y broses o reoli ac ailsefydlu troseddwyr.

• Bydd y cyhoedd yn cael eu diogelu’n well a bydd llai o aildroseddu oherwydd cyfraniad pawb yn Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys tuag at ddarparu gwasanaeth yn effeithiol, â chefnogaeth rheolaeth deg a chadarn a llywodraethu da gan y Ymddiriedolaeth Prawf.

• Bydd cynhwysiant cymdeithasol ac adnewyddu sifil yn cael eu hyrwyddo wrth i Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys weithio ar y cyd â chymunedau lleol ac â phartneriaid yn Ardaloedd Prawf Cymru, Gwasanaeth Carchardai EM, Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r rhai yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol.

• Defnyddir adnoddau yn seiliedig ar orchmynion y Llysoedd a’r risg a ddaw o bob troseddwr yn unol â:
> Model Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr
> Safonau Cenedlaethol ar gyfer goruchwylio troseddwyr

• Bydd y Dylunio Gwasanaeth ar gyfer Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn seiliedig ar ddarparu arferion gorau yn unol â daearyddiaeth, amrywiaeth a demograffeg yr Ardal, gyda strwythurau staffio a rheoli clir er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau a chyflawni amcanion a thargedau busnes.

Nodau yn y NPS - Nodau’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yw (1)diogelu’r cyhoedd, (2) lleihau aildroseddu, (3) cosbi troseddwyr yn gywir yn y Gymuned, (4) sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol o effeithiau troseddu ar ddioddefwyr troseddau a’r cyhoedd, a (5) ailsefydlu troseddwyr.

Rheoli troseddwyr ac ymyriadau - Er mwyn cyflawni’r nodau hyn mae gan Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys strwythur sy'n cynnwys pedair Uned Rheoli Troseddwyr, sy’n cydredeg ag Unedau Rheoli Sylfaenol Dyfed-Powys, ac Uned Ymyriadau. Bu’r Uned Ymyriadau’n canolbwyntio ar: gwaith di-dâl; rhaglenni achrededig; adsefydlu cyffuriau; triniaeth alcohol; sgiliau am oes; cyflogaeth; addysg a hyfforddiant; llety; a chyngor ynglyn â buddion ariannol a dyled.

Daearyddiaeth ac amrywiaeth - Mae Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn cynnwys Siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys, arwynebedd o 4,188 o filltiroedd sgwâr, sef tua 55% o dirfas Cymru. Mae 46% o’r boblogaeth o 476,000 yn siarad Cymraeg ac mae 0.97% yn dod o grwpiau lleiafrifol ethnig (Y data wedi ei gymryd o ffigurau Cyfrifiad 2001).

Y staff a'r bwrdd - Mae Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn cyflogi 220 o staff. Mae 33% o’r rhain yn ddynion, 67% yn fenywod, mae gan 7% anabledd, mae 18% yn siarad Cymraeg ac mae 1.53% yn dod o grwpiau lleiafrifol ethnig. Mae gan y Bwrdd Prawf 11 aelod, sy’n cynnwys Cadeirydd, Prif Swyddog a Barnwr, gyda chefnogaeth Ysgrifennydd a Thrysorydd.

Y gyllideb - Y gyllideb ar gyfer 2007/08 yw £8.3m. Mae costau staff yn cyfrif am 75% o’r gyllideb bresennol ac mae 10% yn cael ei wario ar ariannu partneriaeth er mwyn cefnogi gwaith gyda throseddwyr mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau, sgiliau am oes, mentora, llety ac ati. Mae hyn yn golygu contractio gyda nifer o sefydliadau yn y sectorau gwirfoddol, cymunedol a phreifat er mwyn cyflawni gwasanaethau.

Adroddiadau - Mae Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn paratoi 2,700 o adroddiadau ar gyfer Llysoedd a Charchardai dros gyfnod o 12 mis gan roi asesiadau sy’n cynorthwyo gyda phenderfyniadau ynghylch dedfrydu a rhyddhau o garchar.

Troseddwyr - Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn goruchwylio tua 1,400 o droseddwyr. O’r rhain, mae 87% yn ddynion a 13% yn fenywod a daw 1.6% o grwpiau lleiafrifol ethnig. Mae 31% o’r troseddwyr dan 25 mlwydd oed. Mae proffil perygl o niwed yr Ardal yn dangos bod 16% o droseddwyr yn y categorïau perygl uchel neu uchel iawn.

Gwaith di-dal - Ar unrhyw adeg bydd tua 335 o droseddwyr wedi eu dedfrydu i waith di-dâl. Yn ystod un flwyddyn, bydd 55,709 o oriau’n cael eu gweithio yn y Gymuned ar brosiectau sydd, er enghraifft, yn hyrwyddo Diogelwch Cymunedol ac yn gwella’r amgylchedd. Dewisir y prosiectau hyn ar y cyd â phedair Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yr Ymddiriedolaeth, gyda sefydliadau gwirfoddol lleol a’r cyhoedd a all enwebu prosiect trwy ddolen Ad-dalu'r Gymuned ar y wefan (gweler uchod).

Statws cyflogaeth - Mae cofnodion yn dangos fod 56% o’r troseddwyr y mae Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn eu goruchwylio yn ddi-waith, bod 28% yn gyflogedig a bod 16% yn economaidd anweithgar.

Sgilliau am oes - Mae gan 90% o’r troseddwyr sy’n cael eu goruchwylio gan Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys sgiliau Mathemateg a/neu Saesneg sydd ar y lefel a ddisgwylir gan berson 14 oed (Cyfnod Allweddol 3). O blith y rhain, mae hanner heb ennill y cymhwyster a ddisgwylir gan berson 11 oed (Cyfnod Allweddol 2). (Y ffigurau gan yr Arolwg o Sgiliau Sylfaenol Troseddwyr).

Camddefnyddio sylweddau - Yn achos 47% o’r troseddwyr y mae Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys, yn eu goruchwylio, mae cysylltiad sylweddol rhwng y defnydd o alcohol a throseddu. Y ffigur ar gyfer y defnydd o gyffuriau yw 27%.

Cysylltu a'r dioddefwyr - Bob blwyddyn, bydd Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn dod i gysylltiad â thua 200 o ddioddefwyr troseddau rhyw neu droseddau treisgar difrifol. Mae hyn yn digwydd mewn achosion pan fo’r troseddwr wedi ei ddedfrydu i un flwyddyn neu fwy o garchar, neu wedi cael ei gadw mewn ysbyty â chyfyngiadau ynglyn â gadael. Bydd y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn cynnig dod i gysylltiad cychwynnol â dioddefwyr o fewn wyth wythnos i’r dyddiad dedfrydu fel y gallant gael gwybodaeth am y broses ddedfrydu a datgan eu barn ynglyn â'r achos.

Byddwch cystal â phori’r gwefannau a ganlyn i gael rhagor o wybodaeth am waith y Gwasanaeth Prawf yn genedlaethol ac yng Nghymru ac am y System Cyfiawnder Troseddol yn gyffredinol.

Gwent Probation Area website

North Wales Probation Area website

South Wales Probation Trust website

National Probation Directorate website

Ministry of Justice website

NOMS Wales website

Dyfed-Powys Local Criminal Justice Board website

Criminal Justice System website

HMIP website

Police website

 

Yn ôl i frig y dudalen