|
|
|
|
||||||
|
|
|
Ymyriadau Alcohol
BETH Yn y bôn, ceir tri dull: 1. Ymyriadau alcohol gan PDAC (Powys) neu Prism (Dyfed), y mae angen eu cynnwys yng Nghynllun Dedfrydu Gofyniad Goruchwylio neu mewn amod Trwydded. Mae hyn ar gyfer y troseddwyr sydd â phroblem alcohol. 2. Mae Gofynion Triniaeth Alcohol ar gyfer y lleiafrif o droseddwyr sydd â phroblem alcohol ddifrifol sy’n ateb y meini prawf a ganlyn: •
Rhaid bod ganddynt ddibyniaeth gorfforol gymedrol i ddifrifol ar alcohol,
a ddynodir fel arfer trwy fod wedi yfed dros 175 o unedau o alcohol yr
wythnos (dynion) neu 105 o unedau o alcohol yr wythnos (menywod) dros
gyfnod estynedig. 3. OSAP – Am fanylion y rhaglen hon, gweler yr adran ar OSAP. SUT Yn achos ymyriadau safonol gan PDAC a Prism, bydd y gwaith yn cynnwys rhai neu’r cyfan o’r agweddau a ganlyn, gan ddibynnu ar angen yr unigolyn: •
Cefnogaeth a chynghori unigol. Yn achos Gofyniad Triniaeth Alcohol, bydd angen cael Asesiad cyn gwneud Gofyniad. Bydd angen o leiaf 3 wythnos i baratoi Asesiad. Trwy gydsynio i Ofyniad Triniaeth Alcohol, bydd y troseddwr yn cytuno i ystod o ymyriadau y cyfeirir atynt uchod (o dan BETH). CAM NESAF Adeg adrodd/ymholiad trwydded, nodi’r angen am ohiriad ar gyfer Asesiad os oes angen ystyried Gofyniad Triniaeth Alcohol. Fel arall, nodi y bydd gwaith cynlluniedig yn digwydd i fynd i’r afael â phroblemau alcohol fel rhan o’r Gofyniad Goruchwilio/y Drwydded. Cyfeirio at PDAC neu Prism. Wrth gynllunio dedfryd, ceisio cynnwys gweithiwr o PDAC neu Prism a defnyddio amcanion CAMPUS.
|
|||