English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Cyfarfod o’r Bwrdd ddydd Mawrth 15 Ionawr 2008 yn y Pencadlys Prawf, Caerfyrddin

AGENDA

RHAN A: Eitemau i’w cyflwyno’n gyhoeddus

52 – 2007/08 Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

53 – 2007/08 Datganiadau o Fudd

Derbyn datganiadau o fudd ariannol neu anariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol

54 – 2007/08 Cofnodion Cyfarfodydd y Bwrdd

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd Prawf ar 13 Tachwedd 2007 [Amgaead 54.1 – 07/08] a chyfarfod arbennig o’r Bwrdd Prawf ar 18 Rhagfyr 2007 [Amgaead 54.2 – 07/08] ac ystyried unrhyw faterion sy’n codi o’r rhain.

55 – 2007/08 Nodi Eitemau Ychwanegol i'w Trafod

Er mwyn i’r aelodau gyflwyno ac i’r Cadeirydd bennu eitemau i’w trafod ar frys, os oes rhai, ar ddiwedd y cyfarfod fel eitemau ychwanegol i’w trafod

56 – 2007/08 Adroddiadau Pwyllgorau

.1 Y Pwyllgor Perfformiad ac Adnoddau: 11 Rhagfyr 2007

.1 Derbyn cofnodion heb eu cadarnhau o’r Pwyllgor Perfformiad ac Adnoddau [Amgaead 56.1.1 - 07/08]

.2 Eitem i’w Phenderfynu

Ystyried yr Adroddiad Fframwaith Rheoli Perfformiad ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fedi 2007 [Amgaead 56.1.2 - 07/08]

.3 Eitemau er Gwybodaeth

.1 Derbyn Adroddiad Hunanasesiad EFQM ar gyfer 2007 [Amgaead 56.1.3.1 – 07/08]

.2 Derbyn Adroddiad Archwiliad Ansawdd PSR ar gyfer 2007 [Amgaead 56.1.3.2 – 07/08]

.4 Derbyn adroddiad llafar y Cadeirydd



.2 Pwyllgor Archwilio: 8 Ionawr 2008

.1 Derbyn cofnodion heb eu cadarnhau o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio [Amgaead 56.2.1 – 07/08]

.2 Derbyn adroddiad llafar y Cadeirydd

57 – 2007/08 Materion i’w Penderfynu

.1 Adolygiad Polisi

Cymeradwyo diwygiadau i’r Polisi Mamolaeth, Cefnogi Mamolaeth, Mabwysiadu a Chefnogi Mabwysiadu [Amgaead 57.1 – 07/08]

.2 Cymeradwyo Polisïau

Cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau [Amgaead 57.2 - 07/08]

.3 Trefniadau ar gyfer 2008/2009

Cymeradwyo dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd Prawf/Bwrdd Ymddiriedolaeth ac aelodaeth y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn fusnes 2008/09

58 – 2007/08 Materion i’w Trafod

.1 Bwrdd Prosiectau’r Ymddiriedolaeth Brawf

Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Prosiectau ynglyn â gwaith Bwrdd Prosiectau’r Ymddiriedolaeth Brawf [Amgaead 58.1 – 07/08]

.2 Adolygiad Dylunio Gwasanaeth

Derbyn adroddiad llafar ynglyn â gweithredu’r adolygiad Dylunio Gwasanaeth

59 – 2007/08 Adroddiad y Prif Swyddog

Derbyn adroddiad ysgrifenedig y Prif Swyddog [Amgaead 59 - 07/08]

60 – 2007/08 Adroddiadau Swyddogion

.1 Y Trysorydd a’r Prif Swyddog Cynorthwyol (Gwasanaethau Cefnogi)

.1 Adroddiad Monitro'r Gyllideb 2007/08

Derbyn yr adroddiad cyfnodol ar fonitro'r gyllideb a’r adroddiad ariannol ar yr Adolygiad Dylunio Gwasanaeth [Amgaead 60.1.1 - 07/08]

.2 Dyrannu Adnoddau 2008/09

Derbyn adroddiad am y dyroddiad adnoddau ar gyfer 2008/09 [Amgaead 60.1.2 – 7/08]


.2 Ysgrifennydd

.1 Rhestr Ohebiaeth

Derbyn y Rhestr Ohebiaeth [Amgaead 60.2.1 - 07/08] ac adroddiad llafar yr Ysgrifennydd

61 – 2007/08 Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

Derbyn cyhoeddiadau ysgrifenedig y Cadeirydd [Amgaead 61 - 07/08]

62 – 2007/08 Materion er Gwybodaeth

Nid oes materion i’w derbyn o dan yr eitem agenda hon.

63 – 2007/08 Unrhyw Fater Arall

Ystyried Unrhyw Fater Arall y tybir bod angen ei drafod ar frys

RHAN B: Eitemau y gellir eu cyflwyno’n breifat

64 – 2007/08 Materion Cyfyngedig

.1 Cofnodion

.1 Cymeradwyo cofnodion cyfyngedig o gyfarfod y Bwrdd Prawf ar 13 Tachwedd 2007 [Amgaead 64.1.1 – 07/08] ac ystyried unrhyw faterion sy’n codi o’r rhain

.2 Derbyn cofnodion cyfyngedig heb eu cadarnhau o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Perfformiad ac Adnoddau ar 11 Rhagfyr 2007 [Amgaead 64.1.2 – 07/08]

.2 Rheoli Troseddwyr

Derbyn adran gyfyngedig y trydydd Adroddiad Rheoli Troseddwyr ar gyfer 2007/08 – Troseddu Difrifol Pellach [Amgaead 64.2 – 07/08]

.3 Adroddiad y Prif Swyddog

Derbyn eitemau cyfyngedig adroddiad y Prif Swyddog [Amgaead 64.3 - 07/08]

.4 Adroddiad yr Ysgrifennydd

Derbyn eitemau cyfyngedig adroddiad llafar yr Ysgrifennydd (os oes rai)

.5 Ysgrifennydd y Bwrdd: Trefniadau a Chytundebau Lefel Gwasanaeth

Pennu’r trefniadau ar gyfer swyddogaethau Ysgrifennydd y Bwrdd ar gyfer 2008/09 ac wedyn a chymeradwyo trefniadau ar gyfer pennu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2008/09


Yn ôl i frig y dudalen