|
|
|
|
| ||||||
|
|
|
COFNODION
CYFARFOD BWRDD YMDDIRIEDOLAETH BRAWF DYFED-POWYS
YN GWASANAETHU: Mrs .Jan Pearce (Cyfarwyddwr Cyllid a TGCh), Mr Mark Potter (Trysorydd a Mr Richard Walters (Ysgrifennydd)
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oherwydd tywydd gwael gan Mr Neil Bale (a oedd wedi mynd i Swyddfa’r Drenewydd er mwyn cymryd rhan trwy gyswllt fideo ond a rwystrwyd rhag gwneud hyn oherwydd problemau technegol), Mr Owen Watkin a Mrs Ann Williams
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fudd.
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir ac fe’u llofnodwyd. .2 Materion yn Codi Roedd y WPTPB ar 3 Rhagfyr wedi cadarnhau bod Fforwm Ochr y Cyflogwyr a Staff Cymru Gyfan yn gorff gweithredol a oedd yn gwneud argymhellion i Bartneriaeth Brawf Cymru/WPTPB.
Ni chafodd unrhyw faterion eu cyflwyno i’w hystyried yn faterion ychwanegol brys.
.1 Cyhoeddiadau Ysgrifenedig Cyflwynwyd rhestr ysgrifenedig o ymrwymiadau’r Cadeirydd ers y cyfarfod diwethaf. Penderfynwyd derbyn cyhoeddiadau ysgrifenedig y Cadeirydd .2 Adroddiad llafar ar gynnydd dan Brosiect Cymru'n Un Gan dynnu ar gynnwys adroddiad ysgrifenedig y Prif Weithredwr (gweler cofnod 84) ac yng nghyd-destun oedi yng nghyhoeddiad y Gweinidog a ddisgwyliwyd yn wreiddiol tua 4 Ionawr 2010, rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad ar ddatblygiadau a chyfarfodydd yn ymwneud â phrosiect Un Ymddiriedolaeth i Gymru ers cyfarfod diwethaf Bwrdd yr Ymddiriedolaeth. Roedd yr adroddiad llafar yn cynnwys crynodeb o fusnes cyfarfodydd Bwrdd Partneriaeth Brawf Cymru (WPPB) a Bwrdd Prosiect Ymddiriedolaethau Prawf Cymru (WPTPB) a gynhaliwyd ar 5 Ionawr 2010. Nodwyd bod cyfarfodydd o WPPB a WPTPB wedi’u trefnu ar gyfer 2 Chwefror 2010 a 2 Mawrth 2020 a bod y ffrydiau gwaith yn parhau i ymdrin â materion trawsnewid (wedi’u cymhlethu a’u gwneud yn anos gan yr oedi yng nghyhoeddiad y Gweinidog am ganlyniad y cais). Rhoddwyd gwybod i aelodau am ganlyniadau positif y cyfarfod gydag ASau yn Nhy’r Cyffredin ar 15 Rhagfyr 2009 a’r cyfweliad ffurfiol ar 18 Rhagfyr. O ran yr oedi i gyhoeddiad y Gweinidog, adroddwyd bod y Cyfarwyddwr Rheoli Troseddwyr wedi dweud mewn e-bost dyddiedig 4 Ionawr 2010 fod cais i argymell cymeradwyo cais Ymddiriedolaeth Cymru wedi ei anfon at y Gweinidog i'w ystyried cyn y Nadolig a bod cyfarfod rhwng y Cyfarwyddwr a’r Gweinidog wedi’i drefnu ar gyfer 14 Ionawr. Er mwyn sicrhau bod momentwm y prosiect yn cael ei gynnal, roedd y Cyfarwyddwr Rheoli Troseddwyr wedi gofyn i bwynt cyswllt Cymru fwrw ymlaen â’r cyfarfod cychwynnol, yn amodol ar gael cymeradwyaeth, er mwyn i’r trefniadau cyfreithiol a llywodraethol fod yn eu lle erbyn 1 Ebrill 2010. Tynnwyd sylw at y materion
a ganlyn: y ddealltwriaeth, fel yr adroddwyd wrth gyfarfod diwethaf WPPB, y byddai cystadleuaeth agored ar gyfer swyddi’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr ac y byddai cyfweliadau yn cael eu cynnal, yn amodol ar gyhoeddiad cynnar gan y Gweinidog, ar 14 a 15 Ionawr; cefnogaeth barhaus yr Undebau
Llafur i brosiect Un Ymddiriedolaeth i Gymru; y bwriad a gyhoeddwyd i
amrywio trwy gyfrwng Hysbysiad am Newid y cyfnod rhybuddio a nodir yn
y contract presennol â’r Ysgrifennydd Gwladol o dri mis
i 30 niwrnod; Cadarnhaodd y cyfarfod fwriad ystyriol a phendant y Bwrdd i symud i statws Un Ymddiriedolaeth i Gymru trwy uno â thair ardal arall Cymru ac awdurdodwyd y Cadeirydd i hysbysu NOMS am hynny. Penderfynwyd: .1 derbyn yr adroddiad llafar; .2 Hysbysu NOMS bod Bwrdd
yr Ymddiriedolaeth yn dal i fwriadu symud i statws Un Ymddiriedolaeth
i Gymru. 84 – 2009/10 Adroddiad y Prif Weithredwr Derbyniodd y cyfarfod adran agored adroddiad ysgrifenedig y Prif Weithredwr. Atodiadau i’r adroddiad a gyflwynwyd: Porth y Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol 18 Rhagfyr 2009: Digwyddiad i Uwch Arweinwyr – dilyniant; Tynnwyd sylw arbennig at adrannau ar ddatblygiadau ar NOMS a’r cais am Un Ymddiriedolaeth i Gymru. Penderfynwyd derbyn adran agored adroddiad y Prif Weithredwr
.1 Pwyllgor Archwilio: 12 Ionawr 2010 Cyflwynodd Mr Ian Cripwell, a oedd, yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, wedi cadeirio cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd yn gynharach ar 12 Ionawr, adroddiad llafar ar fusnes y cyfarfod hwnnw. Cyfeiriwyd yn arbennig at benderfyniad y Pwyllgor i gadarnhau'r Strategaeth Archwilio Allanol a'r ffi ar gyfer 2009/10 ac i oedi cyflwyno cynigion am strategaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2010/11 nes y byddai manylion am strwythur y ddarpariaeth brawf yng Nghymru o 1 Ebrill 2010 wedi eu cyhoeddi. Nodwyd bod cyfarfod arbennig
o’r Pwyllgor Archwilio wedi ei alw ar gyfer 23 Mawrth 2010 i dderbyn
adroddiadau pellach dan Strategaeth Archwiliad Mewnol 2009/10. .2 Y Cydbwyllgor Trafod ac Ymgynghori: 1 Rhagfyr 2009 Derbyniodd y cyfarfod gofnodion
heb eu cadarnhau o gyfarfod y Cydbwyllgor ar 1 Rhagfyr 2009. Ynglyn
â’r adroddiad llafar a gyflwynwyd i gyfarfod diwethaf Bwrdd
Yr Ymddiriedolaeth, nodwyd bod sylwadau wedi eu gwneud i NOMS ar ran
y WPPB ynglyn â darpariaethau’r Cynllun Trosglwyddo Staff
drafft. Derbyniodd y cyfarfod y
cofnodion heb eu cadarnhau o gyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch
ar 1 Rhagfyr 2009. Roedd adroddiad llafar ar fusnes y cyfarfod hwnnw
wedi ei gyflwyno i gyfarfod diwethaf Bwrdd Yr Ymddiriedolaeth. .1 Cynllun Busnes 2010/11 Gan dynnu ar ddarpariaethau’r cyflwyniad Un Ymddiriedolaeth i Gymru, cymeradwyodd y cyfarfod gynigion ar gyfer Cynllun Busnes yr Ymddiriedolaeth ar gyfer 2010/11 (pe bai’r trefniadau presennol yn parhau ar ôl 31 Mawrth 2010). Adroddwyd bod yna gynigion tebyg yn ardaloedd eraill Cymru a bod y Cyfarwyddwr Rheoli Troseddwyr yn cefnogi’r ymagwedd hon at gynllunio busnes yn ystod cyfnod o ansicrwydd. Penderfynwyd derbyn cynigion ar gyfer Cynllun Busnes Ymddiriedolaeth Brawf Dyfed Powys ar gyfer 2010/11 .2 Ariannu’r Tîm
Troseddu Ieuenctid 2010/11 Penderfynwyd cymeradwyo cynigion ar gyfer ariannu’r Tîm Troseddu Ieuenctid ar gyfer 2010/11 .3 Adolygiad Polisi: Strategaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Roedd adroddiad ysgrifenedig yn ceisio cymeradwyaeth i Bolisi a Strategaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus diwygiedig (fe’i adolygwyd diwethaf yn Ionawr 2007) Penderfynwyd cymeradwyo’r
Polisi Strategaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus diwygiedig a’i
adolygu eto cyn pen 12 mis. 87 – 2009/10 Mater i’w Drafod .1 Cynllun Busnes 2009/10 Gan barhau â’r adolygiad o berfformiad trwy’r hanner blwyddyn a ddechreuwyd yn y cyfarfod diwethaf, roedd adroddiad ysgrifenedig yn gyfle i gael adolygiad hanner blwyddyn o gynnydd dan Gynllun Busnes 2009/10. Roedd yr adroddiad, a ddarllenwyd ar y cyd â’r Adroddiad Contract diweddaraf a atodwyd wrth Adroddiad y Prif Weithredwr (gweler cofnod 84 uchod), ar ffurf adolygiad o’r cynnydd tuag at gyflawni’r pum blaenoriaeth allweddol ac yn nodi’r camau gweithredu ar gyfer cyflawni’r targedau a nodau sy’n weddill cyn diwedd y flwyddyn. Cadarnhawyd bod gweithdrefnau Troseddau Pellach Difrifol yn unol â PC29/2008. Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd dan Gynllun Busnes 2009/10 .1 Trysorydd a Chyfarwyddwr Cyllid a TGCh .1 Monitro'r Gyllideb 2009/10 Penderfynwyd derbyn yr adroddiad .2 Yr Ysgrifennydd .1 Rhestr Ohebiaeth Cyflwynodd yr Ysgrifennydd y Rhestr Ohebiaeth a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. Mewn adroddiad ysgrifenedig, cyfeiriwyd at bresenoldeb arfaethedig yr Ysgrifennydd yng Nghyfarfod Contractau Ymddiriedolaethau’r Drydedd Don yn Llundain ar 15 Ionawr 2010 a Gweithdy Datblygu Ymddiriedolaethau yn Sheffield ar 29 Ionawr 2010. Penderfynwyd derbyn y Rhestr Ohebiaeth a’r adroddiad llafar .1 DP 03/09: Sicrwydd Gwybodaeth Cafodd y cyfarfod sicrwydd llafar o gydymffurfiad yr Ymddiriedolaeth â’r camau gorfodol dan DP 03/09: Sicrwydd Gwybodaeth. Penderfynwyd nodi cydymffurfio â DP 03/09
Nid oedd unrhyw faterion eraill.
|
|