English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003


Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (ynghyd â’r Ddeddf Troseddau Rhyw a’r Ddeddf Llysoedd) yn cyflwyno diwygiadau Cyfiawnder Troseddol y Llywodraeth.


Mae’r Ddeddf wedi golygu newidiadau sylweddol i’r dedfrydau carcharol ac angharcharol blaenorol ac wedi dylanwadu’n drwm ar waith y Gwasanaethau Prawf a Charchar.


Bu’r Ddeddf yn fodd i greu Dedfryd Gymunedol sengl newydd, sef y Gorchymyn Cymunedol ar gyfer troseddau a gyflawnwyd ar neu ar ôl 4 Ebrill 2005. Mae’r Gorchymyn Cymunedol wedi rhoi mwy o hyblygrwydd i’r Llysoedd wrth ddedfrydu trwy ganiatáu iddynt roi dedfrydau mwy priodol wedi’u teilwra ar gyfer troseddwyr unigol.


Bellach, gall Barnwyr ac Ynadon roi Gorchymyn Cymunedol ag un neu fwy o Ofyniadau, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd a’r posibilrwydd y bydd y troseddwr yn niweidio neu’n aildroseddu. Gall troseddwyr llai difrifol â risg isel gael eu dedfrydu i Orchymyn Cymunedol ag un gofyniad yn unig, ond mae angen tri neu fwy o ofynion ar gyfer troseddwyr mwy difrifol â risg uchel.
Mae yna ddeuddeg gofyniad i gyd, sef:


•Gweithgaredd – er enghraifft, addysg, hyfforddiant a phecynnau cyflogaeth.
•Triniaeth alcohol – mae'n ofynnol i droseddwyr fynychu sesiynau triniaeth er mwyn lleihau neu ddileu dibyniaeth ar alcohol.
•Canolfan Fynychu (os yw’r troseddwr dan 25 oed) – rhaid i’r troseddwr fynychu canolfan fynychu am rhwng 12 a 36 awr.
•Cwrffyw - (ynghyd â monitro electronig) – rhaid i’r troseddwr aros mewn lle penodol yn ystod adegau penodol o’r dydd, er enghraifft, gall troseddwyr a gafwyd yn euog o fwrgleraeth yn y nos gael eu cyfyngu i’w cartref yn ystod oriau’r nos.
•Gofyniad adsefydlu cyffuriau – mae’n ofynnol i droseddwyr gael triniaeth i leihau neu ddileu eu dibyniaeth ar gyffuriau neu eu tuedd i’w camddefnyddio.
•Eithrio – ni all y troseddwr fynd i le penodol am gyfnod o hyd at ddwy flynedd. Gall hyn gynnwys strydoedd neu siopau penodol.
•Triniaeth iechyd meddwl – gall y troseddwr dderbyn triniaeth am broblem iechyd meddwl.
•Gweithgaredd gwaharddedig – byddai'r troseddwr yn cael gorchymyn i atal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ddiwrnod neu ddiwrnodau penodol neu ystod cyfnod penodol.
•Rhaglen – mae'r rhain yn rhaglenni cydnabyddedig wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r agweddau a phatrymau ymddygiad sy’n cyfrannu at droseddu.
•Gofyniad preswylio – byddai’r troseddwr yn cael gorchymyn i fyw mewn lle penodol, er enghraifft mewn adeilad gwarchod (hostel).
•Gofyniad archwilio – mae’n ofynnol i’r troseddwr fynychu apwyntiadau gyda’r Gwasanaeth Prawf.
•Gwaith di-dâl - bydd troseddwyr yn gwneud gwaith di-dâl o rhwng 40 a 300 awr.


Hefyd, bwriedir cael fframwaith newydd ar gyfer dedfrydau carcharol trwy garchariad a mwy a charchariad a llai.


Cliciwch yma u gael copi o Bennod 44 o’r Ddeddf.

Yn ôl i frig y dudalen