|
|
|
|
||||||
|
|
|
Neges gan Gadeirydd Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys
Ynghyd â’n Cyd-gadeirydd daeth cyfnod aelodaeth chwe blynedd sawl aelod o’r Bwrdd hefyd i ben ar 31 Mawrth 2007, ac rydym yr un mor ddiolchgar i’r ymroddiad a gafwyd ganddynt hwythau. Fel canlyniad, mae gennym bum aelod newydd o'r Bwrdd sydd â phrofiad ac arbenigedd sylweddol mewn sawl maes yn y sectorau Cyhoeddus a Phreifat, ac rwy’n siwr eu bod mewn sefyllfa dda i barhau â’r gwaith rhagorol a wnaed gan y cyn-aelodau. Bu 2006/07 yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r Ardal a chyrhaeddwyd y mwyafrif helaeth o'r prif dargedau perfformiad. Mae'r Model Dylunio Gwasanaeth wedi hen sefydlu’n rhan o’n strwythur a bydd yn sicrhau bod ymagwedd integredig i reoli troseddwyr newydd yn cyd-fynd â’r ymyriadau mwyaf perthnasol i droseddwyr yn ein Hardal. Gan edrych i’r dyfodol, fe fyddwn yn dal i hyrwyddo Diogelu'r Cyhoedd a Lleihau Aildroseddu fel ffordd o wneud ein cymunedau yn fwy diogel a gwella ffydd y cyhoedd yn y Gyfundrefn Cyfiawnder Troseddol. Fe fyddwn hefyd yn gwneud ad-dalu'r gymuned yn fwy gweladwy ac yn gwella cydymffurfio â dedfrydau cymunedol gan sicrhau ar yr un pryd fod troseddwyr, os yw’n ymarferol, yn derbyn yr adsefydlu a chymorth priodol sydd ar gael iddynt er mwyn byw bywydau cynhyrchiol heb droseddu. Hefyd, wrth i ragor o fanylion ddod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn, fe fyddwn yn canolbwyntio ar heriau newydd cyfundrefn gomisiynu a’r newid arfaethedig o Fyrddau i Ymddiriedolaethau. Ni ellir gwneud hyn i gyd heb frwdfrydedd ac ymrwymiad ein staff a’r asiantaethau sy’n bartneriaid i ni. Gan ystyried y gorffennol, gallwn edrych ymlaen yn hyderus oherwydd mae perfformiad a gwaith tîm ein staff a’r partneriaethau a feithriniwyd ganddynt yn haeddu clod o’r mwyaf am barhau i wneud ein Hardal yn fwy diogel i fyw a gweithio ynddi ac i ymweld â hi. Keith
Turner OstJ. QPM
|
|||