English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Croeso cynnes i Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys.

Dechreuodd fy mhenodiad fel Prif Weithredwr cyntaf yr Ymddiriedolaeth gyfun newydd ar 1af Ebrill 2008. Dechreuodd y daith i'r swydd hon gyda gradd mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerwysg a Thystysgrif Cymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf wedi gweithio i'r Gwasanaeth Prawf am 33 mlynedd; fel Swyddog Prawf yn Ne Morgannwg a Morgannwg Ganol; yna'n Uwch Swyddog Prawf yn Ne Morgannwg gan redeg Uned Hyfforddi'r Swyddfa Gartref ac yna'r Uned Troseddwyr Ifanc. Ym 1992 symudais i Orllewin Cymru i fod yn Brif Swyddog Prawf Cynorthwyol. Yn 2001 ces fy mhenodi’n Brif Swyddog Ardal Brawf gyfunedig Dyfed-Powys.
 

Nawr a finnau'n Brif Weithredwr, wrth edrych yn ôl ar fy ngyrfa, gallaf ddweud yn onest nad oes yr un dau ddiwrnod wedi bod yr un fath. Wrth edrych ymlaen, nid yw'r Gwasanaeth Prawf erioed wedi profi amser mor heriol, wrth i ni roi blaenoriaethau'r Ysgrifennydd Cartref ar waith i leihau troseddu a gwarchod y cyhoedd.
Rwy'n mawr obeithio y bydd y wefan hon o ddiddordeb i chi ac y byddwch yn cysylltu â ni os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y Dyfed Powys.

Caroline R Morgan
Prif Weithredwr
Ffôn: 01267 221567
Ffacs: 01267 221566

     
Gwobr Ansawdd Cymru
Gwobr Sector Gyhoeddus 2005 & 2007

 
www.lccs.org.uk