| |
|
Ad-dalu'r
Gymuned
Mae
Ad-dalu’r Gymuned yn gynllun newydd gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.
sy’n rhoi cyfle i bobl Ardal Dyfed-Powys ddweud eu dweud ynglyn
â sut dylai troseddwyr ad-dalu’r gymuned.
|
|
 |
Bob
blwyddyn ar draws y wlad bydd cymunedau lleol yn elwa ar dros 6.5 miliwn
o oriau o waith di-dâl gorfodol. Yn ardal Dyfed-Powys yn unig cwblhawyd
dros 54,000 o oriau gan droseddwyr o siroedd Caerfyrddin, Penfro, Ceredigion
a Phowys yn 2006/07. Fodd bynnag, bydd y gwaith hwn yn aml yn cael ei
wneud heb i neb sylweddoli, ac felly mae trigolion nawr yn cael cyfle
i chwarae rhan trwy benderfynu pa waith yr hoffent gael ei wneud.
Er
bod y prosiectau’n golygu gwaith caled, maent hefyd yn rhoi cyfle i droseddwyr
ddysgu sgiliau galwedigaethol a sgiliau bywyd pwysig. Maent yn helpu i
atal y perygl o aildroseddu ac felly’n helpu i wneud ein cymunedau’n fwy
diogel.
Oes
genych chi syniadau ar gyfer Prosiect ?
Mae grwpiau ffydd, busnes, grwpiau cymunedol, grwpiau gwirfoddol,
elusennau, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael eu cymell i enwebu
prosiectau ar gyfer y Gwasanaeth Prawf. Os caiff y prosiect ei dderbyn
a phan fo’r gwaith wedi ei gwblhau, bydd yn derbyn logo neu
dystysgrif “Ad-dalu'r Gymuned” er mwyn dangos lle mae
troseddwyr wedi cyfrannu’n bositif at wella’u cymdogaeth.
|
Mae
grwpiau ffydd, busnes, grwpiau cymunedol, grwpiau gwirfoddol, elusennau,
ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael eu cymell i enwebu prosiectau ar
gyfer y Gwasanaeth Prawf. Os caiff y prosiect ei dderbyn a phan fo’r gwaith
wedi ei gwblhau, bydd yn derbyn logo neu dystysgrif “Ad-dalu'r Gymuned”
er mwyn dangos lle mae troseddwyr wedi cyfrannu’n bositif at wella’u cymdogaeth.
Rhaid
i bob prosiect fodloni’r meini prawf a ganlyn:
• Rhaid iddo fod o fudd i’r gymuned leol
• Ni ddylai gymryd gwaith oddi ar bobl gyflogedig
• Ni ddylai neb elwa’n ariannol ar y gwaith
• Rhaid iddo fod yn fuddiol, adeiladol a dylai roi sgiliau newydd
i droseddwyr
• Rhaid i droseddwyr ddangos eu bod yn cyfrannu rhywbeth yn ôl
i’r gymuned leol.
Gallwch
anfon neges e-bost atom :
dppcommunity.payback@dyfed-powys.probation.gsi.gov.uk
i ddarganfod mwy am sut i awgrymu prosiect Ad-dalu'r Gymuned. Gweler
isod am ragor o fanylion.
Ymhlith
y prosiectau a wnaed gan droseddwyr ac a fu'n fuddiol i gymunedau lleol
yn ardal Dyfed-Powys, mae dileu graffiti, clirio ysbwriel a llystyfiant,
trwsio ac ailaddurno canolfannau cymuned ac ysgolion, a gwaith amgylcheddol
fel adfer mynwentydd a mannau chwarae. Mae esiamplau a prosiectau diweddar
yn Cynnwys:
Rheilffordd
Gwili, Caerfyrddin
Mae
Rheilffordd Gwili, Caerfyrddin, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr
Signalau Westing House am adfer blwch signalau a godwyd yn 1895
ac sy’n dal i weithio.
Gwnaed
y rhan fwyaf o’r gwaith cadwraeth ar y blwch signalau gan
droseddwyr yn gwneud Gwaith Di-dâl fel rhan o’u Gorchmynion
Cymunedol dan oruchwyliaeth Prawf Dyfed-Powys. Mae’r grwpiau
o droseddwyr wedi twtio’r blwch drwy glirio isdyfiant a
phaentio. Maent hefyd wedi ail-baentio darn helaeth o'r platfform.
Ar ben hyn, mae yna fwriad i estyn y rheilffordd, ac mae troseddwyr
yn clirio coed er mwyn gosod trac newydd i gyfeiriad Caerfyrddin
|
Llanelli
Mae’r prosiectau gwaith di-dâl yn Llanelli wedi amrywio
o godi ysbwriel (cliriwyd 300 sachaid o sbwriel o Draeth Llanelli,
110 sachaid o sbwriel yn Felin-foel, ynghyd â llawer sachaid
arall o sbwriel o Lwybr Seiclo Sustrans a Morfa) i glirio gerddi
i bobl hyn trwy Gynllun Garddio Age Concern.
Mae’r
prosiectau eraill yn cynnwys paentio Canolfan Deulu St Paul, Bigyn;
clirio llystyfiant ym Mynwent Old Road; paentio Neuadd Bentref
Llan-saint; a gweithio yn Siop Elusen Scope yn Stryd Stepney.
|
Neuadd
yr Henoed – Llangennech
Mae’r Neuadd wedi cael bywyd newydd, diolch i gymorth troseddwyr a fu’n
ailaddurno’r tu allan a’r tu mewn, gan gynnwys gosod cegin newydd a roddwyd
gan un o ganghennau lleol MFI.
Eglwys
Dewi Sant – Llanddewi Felffre, Penfro
Tacluswyd Eglwys Dewi Sant yn Llanddewi Felffre y tu mewn a’r tu allan.
Ysgrifennodd warden yr eglwys: “Mae’r gwasanaeth wedi gwneud cyfraniad
gwych tuag at gynnal a chadw adeilad rhestredig hardd. Roedd y goruchwyliwr
a’r troseddwyr a fu’n gweithio gydag ef yn frwdfrydig ac yn barod eu cymwynas
ac roedd llawer yn meddu ar sgiliau da. Diolch yn fawr. Mae wedi gwneud
gwir wahaniaeth.”
Ystafell
Ddarllen Nolton Haven, Sir Benfro
Bu
troseddwyr yn rhoi help llaw yn Ystafell Ddarllen/Neuadd y Pentref
yn Nolton Haven, ger Hwlffordd.
Bu’r
troseddwyr, a ddedfrydwyd i waith di-dâl gorfodol fel rhan
o’u Gorchmynion Cymunedol, dan oruchwyliaeth Ardal Brawf
Dyfed-Powys, yn gweithio’n galed yn harddu Ystafell Ddarllen
y Pentref. Hyd yma, maent wedi paentio’r tu mewn, gan gynnwys
y toiledau a’r gwaith pren. Hefyd, maent wedi clirio’r
llystyfiant o amgylch yr adeilad ac wedi adnewyddu’r pren
a oedd wedi pydru. Daeth y prosiect i ben pan adnewyddwyd ac ail-baentiwyd
tu allan yr adeilad.
|
Powys
Mae’r prosiectau gwaith di-dâl ym Mhowys wedi amrywio o godi
gwelyau uchel fel bod cleifion yn gallu tyfu llysiau yn yr Ardd Gymunedol
yn Ysbyty Ystradgynlais i drwsio dodrefn ac ail-baentio’r ystafell
gerddoriaeth yng Nghanolfan Ieuenctid Pen-rhos. Mae’r trigolion
hyn wedi elwa ar y cynllun garddio yn Aberhonddu ac mae troseddwyr wedi
clirio ysbwriel oddi ar Ystad Pen-rhos fel rhan o’r rhaglen Cymunedau
yn Gyntaf.
Hefyd,
mae troseddwyr wedi bod yn paentio bolardiau ac yn codi ysbwriel yng nghanol
tref Ystradgynlais. Yn Sir Faesyfed, mae’r prosiectau wedi cynnwys
ailwampio Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Nhrefyclo ac Ysgol Gynradd Howey
yn Llandrindod, twtio y tu mewn a’r tu allan i gartref seibiant
Ymddiriedolaeth Bracken yn Llandrindod ac addurno ty cwrdd Y Pale i’r
Crynwyr yn Llandegle
| Y
Dolydd, Llanfyllin, Phowys
Mae’r tir sy’n perthyn i Wyrcws Y Dolydd wedi cael ei adfer yn sylweddol.Ysgrifennodd
un o’r Ymddiriedolwyr “Cafodd y prosiect ei drefnu’n rhagorol, ac
mae’r goruchwylwyr wedi bod yn barod iawn eu cymwynas ac yn hyblyg
wrth oruchwylio a rheoli amrediad eang o dasgau. Mae’r troseddwyr
wedi gwneud gwaith gwych wrth glirio’r safle, gan docio gwrychoedd,
paentio rheiliau, clirio ffosydd, a’n galluogi ni i symud ymlaen
â’r gwaith adfer yn gynt na’r disgwyl. Mae’r Tîm Gwaith
Cymuned wedi gwneud gwaith ardderchog a hoffwn fanteisio ar y cyfle
hwn i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion.”
|
Ceredigion
Cafwyd prosiectau gwaith di-dâl ledled Ceredigion, a oedd
yn amrywio o dwtio glan y môr yn Aber-porth drwy baentio
meinciau a rheiliau; paentio ac addurno Canolfan Gymuned Aber-porth;
ailwampio y tu mewn a’r tu allan i Neuadd Goffa Aberaeron;
plannu gardd yn Ysgol Gynradd Cwmpadarn i glirio mynwentydd Capeli
Llanwenog a Llanfihangel y Creuddyn.
Mae henoed Ceredigion hwythau
wedi elwa oherwydd y gwaith cynnal a chadw a wnaed mewn 35 o erddi
drwy Help the Aged a’r Adran Dai.
|
Mynwent
Rhiw Briallu, Ceredigion
Yn ddiweddar, trwy Gyngor Sir Ceredigion, mae Mynwent Rhiw Briallu yn
Llanbadarn Fawr wedi cael darn arall o dir wrth ymyl y fynwent wreiddiol.
Cliriwyd y fynedfa i’r tir hwn, codwyd wal flociau a chrëwyd sawl
llecyn concrid i ddal biniau. Gwnaed y gwaith hwn gan dîm o droseddwyr
dan Orchmynion Gwaith Di-dâl ynghyd â goruchwyliwr.
Bob blwyddyn, ar draws y wlad, bydd cymunedau lleol yn elwa ar dros 5
miliwn o oriau o waith di-dâl gorfodol gan droseddwyr dan oruchwyliaeth
y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.
Allwn
ni ddim gwneud hyn heb eich help chi! Rhaid i ni gael gwybod am brosiectau
rydych chi'n credu y gallem weithio arnyn nhw.
Gallwch
anfon neges e-bost atom:
dppcommunity.payback@dyfed-powys.probation.gsi.gov.uk
Yn
ôl i frig y dudalen
|