English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Gorfodi


Mae ymchwil wedi dangos fod dedfrydau sy’n cael eu gorfodi yn effeithiol yn fwy tebygol o lawer o gael eu cwblhau gan droseddwyr a’u bod yn llai tebygol o aildroseddu. Nodir y meini prawf ar gyfer gorfodi Gorchmynion Cymunedol a Thrwyddedau yn glir yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaetholi, ac mae’r Swyddfa Gartref yn pennu targedau heriol i Ardaloedd Prawf ar gyfer cyflawni hyn. Yn Nyfed-Powys rydym yn cyflawni’r targed hwn ar hyn o bryd.


Felly, mae gorchmynion Cymunedol a Thrwyddedau yn cael eu gorfodi'n llym. Bydd unrhyw droseddwyr sy’n ymddwyn yn annerbyniol neu’n methu mynychu apwyntiadau yn cael eu cymryd yn ôl i’r Llys. Fel canlyniad, gall eu dedfryd wreiddiol gael ei chynyddu neu gallant gael eu hanfon i garchar.


I droseddwyr sy’n bwrw gweddill eu tymor carcharol dan amodau trwydded, mae methu mynychu neu droseddu pellach yn golygu eu bod yn cael eu galw nôl i garchar o fewn 24 awr – neu o fewn dwy awr os ystyrir eu bod yn beryglus. Mae’r broses hon yn osgoi’r Llysoedd (ac eithrio troseddwyr ifainc). Wedyn bydd troseddwyr yn bwrw gweddill tymor eu dedfryd, ynghyd ag unrhyw amser ychwanegol ar gyfer troseddau pellach pan fo hynny’n berthnasol.

Yn ôl