English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

DEDDF RHYDDID GWYBODAETH 2000

CYNLLUN CYHOEDDIADAU BWRDD PRAWF DYFED-POWYS

Croeso i Gynllun Cyhoeddiadau Bwrdd Prawf Dyfed-Powys

1 Dan Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae'r Bwrdd Prawf wedi ymgymryd mabwysiadu a chynnal cynllun ar gyhoeddi gwybodaeth am y gwasanaeth prawf.

2 Lluniwyd y cynllun cyhoeddiadau hwn i'ch helpu i ganfod sut mae'r Bwrdd Prawf yn cyflawni ei nodau a'i amcanion. Fel rhan o'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, nod y Bwrdd yw bod yn asiantaeth sy'n gorfodi'r gyfraith trwy wneud y canlynol

darparu cosbau yn y gymuned

goruchwylio a gweithio gyda throseddwyr o fewn y telerau a osodwyd gan y llys neu'r Bwrdd ParÙl mewn ffyrdd sy'n helpu troseddwyr i leihau eu troseddu ac sy'n diogelu'r cyhoedd yn well, ac sy'n

rhoi cymorth i rai sydd wedi dioddef troseddau difrifol

Ei nodau yw

diogelu'r cyhoedd

lleihau aildroseddu

cosbi troseddwyr yn y gymuned mewn ffordd briodol

sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol o effeithiau trosedd ar ddioddefwyr ac ar y cyhoedd

ailsefydlu troseddwyr.

.
Pwrpas a Strwythur y cyllun

3 Mae Cynllun Cyhoeddiadau Bwrdd Prawf Dyfed-Powys yn cynnig map fel y gallwch ddod o hyd i wybodaeth a ddelir gan y Bwrdd Prawf yn gyflym ac yn rhwydd.

4 Pwrpas y cynllun cyhoeddiadau hwn yw darparu gwybodaeth cyn bod angen ichi ofyn amdani. Mae'r cynllun yn nodi'r canlynol yn benodol:

ï y dosbarthiadau o wybodaeth a gyhoeddir neu y bwriedir eu cyhoeddi gennym

ï ym mha ddull y byddwn yn cyhoeddi neu'n bwriadu cyhoeddi'r wybodaeth ym mhob dosbarth, ac

ï a yw'r deunydd neu a fwriedir i'r deunydd fod ar gael yn ddi-dâl neu am dâl.

5 Mae Bwrdd Prawf Dyfed-Powys yn ceisio bod mor agored â phosibl, a chydymffurfio âr Côd Ymarfer ar Fynediad i Wybodaeth y Llywodraeth (y Côd). Mae copuau o hwn ar gael yn ddi-dâl gan

Freedom of Information and Data Protection Unit
Department for Constitutional Affairs
Selborne House
54 Victoria Street
London SW1E 6QW.

6 Byddwn yn parhau i fodloni gofynion y CÙd wrth ymwneud ‰r cyhoedd hyd 1 Ionawr 2005, pryd y cyflwynir yr hawl gyffredinol i fynediad dan adran 1 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wrth i'r Ddeddf ddisodli'r CÙd.

CYFRIFOLDEB AM Y CYNLLUN

7 Y Prif Swyddog yn yr ardal brawf leol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y cynllun cyhoeddiadau hwn. Y sawl sy'n gyfrifol am gynnal y cynllun cyhoeddiadau o ddydd i ddydd yw'r rheolwr mynediad i wybodaeth;

Prif Swyddog Cynorthwyol ñ Gwasanaethau Cymorth, ym Mhencadlys Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys, Heol Llangynnwr, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PD. FfÙn: 01267 221567.

DEDDF RHYDDID GWYBODAETH

8 Derbyniodd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gydsyniad brenhinol ar 30 Tachwedd 2000. Mae'n creu hawl gyffredinol i fynediad i bob math o wybodaeth a gofnodwyd ac a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, yn nodi eithriadau i'r hawl honno ac yn gosod ymrwymiadau ar awdurdodau cyhoeddus. Mae'r 42 o fyrddau prawf yng Nghymru a Lloegr yn awdurdodau cyhoeddus dan y Ddeddf ac felly'n ddarostyngedig i'w darpariaethau.

9 Yr Adran Materion Cyfansoddiadol sy'n arwain polisi mewn perthynas ‰r Ddeddf a'r Codau Ymarfer ar gyfer awdurdodau cyhoeddus o ran cydymffurfiad a rheoli cofnodion dan y Ddeddf.

10 Mae ar y Comisiynydd Gwybodaeth ddyletswydd i hybu arfer gorau dan y Ddeddf ac i sicrhau cydymffurfiad. Y cyfeiriad yw

The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow SK9 5AF.

11 Mae gwefan y Comisiynydd www.informationcommissioner.gov.uk yn cynnwys cyfarwyddyd defnyddiol ac adroddiadau, yn ogystal gwybodaeth am rôl y Comisiynydd.

12 Yn ddarostyngedig i rai amodau a ragnodir ac i'r eithriadau a geir yn Adrannau 21 i 44 yn Rhan II o'r Ddeddf, mae gan y cyhoedd hawl statudol i'r canlynol:

ï i gael gwybod a yw'r Bwrdd Prawf yn dal gwybodaeth o'r disgrifiad a geir yn y cais, ac, os felly,
ï i gael trosglwyddo'r wybodaeth honno iddynt.

13 Mae'r Bwrdd Prawf wedi ymrwymo i egwyddorion gonestrwydd a ymgorffori yn y Ddeddf a bydd yn rhyddhau gwybodaeth hyd y gall, yn gyson â buddiannau'r cyhoedd. Bydd y Bwrdd yn cydymffurfio hefyd âr Codau Ymarfer a gyhoeddwyd gan yr Adran Materion Cyfansoddiadol dan Adrannau 45 a 46 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

HAWLFRAINT

14 Gellir atgynhyrchu'r wybodaeth a ddarperir trwy'r cynllun cyhoeddiadau yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n gywir ac nad yw'n cael ei defnyddio mewn modd camarweiniol. Lle bod gwybodaeth, mewn amgylchiadau eithriadol, yn cael ei chynnwys sy'n ddarostyngedig i hawlfraint neu lle bo cyfyngiad ar ei defnyddio nodir hyn yn y cynllun a dylid gwneud cais am drwydded i atgynhyrchu'r deunydd dan sylw i'r Prif Swyddog a fydd yn cysylltu âr deiliaid hawlfraint perthnasol.

CEISIO DOGFENNAU a GWYBODAETH DAN Y CYNLLUN CYHOEDDIADAU
 

15 Bydd y Bwrdd Prawf yn cyhoeddi gwybodaeth ar wefan leol yn rheolaidd wrth ei lansio. Bydd ar gael ichi ei lawrlwytho, os oes gennych fynediad i'r Rhyngrwyd. Fel arall, darperir copïau trwy ofyn amdanynt. Anfonir gwybodaeth arall a gyhoeddir yn unol âr cynllun hwn, ond sydd heb fod ar gael ar ffurf electronig, trwy ofyn amdani.

16 Gellwch geisio gwybodaeth a gyhoeddwyd gan y Swyddog Mynediad i Wybodaeth trwy ffonio 01267 221567 neu drwy ysgrifennu at Bencadlys Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys, Heol Llangynnwr, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PD.


CODI TÂL

17 Darperir gwybodaeth yn ddi-dâl ac eithrio

lle nodir tâl am ddogfen brintiedig (er y gellir lawrlwytho copi yn ddi-dâl)

lle gwneir cais am sawl printiad o'r wefan, neu am gopïau o ddogfennau yn yr archif nad ydynt bellach ar gael ar y we â gellir codi tâl am adfer, llungopïo, postio ac yn y blaen, a bydd yn rhaid talu ymlaen llaw

copuau papur sgleiniog neu eraill wedi'u rhwymo, neu weithiau CD Rom, fideo neu gyfryngau eraill.

18 Ni chodir tâl am wybodaeth a geir ar y wefan. I rai sydd heb fynediad i'r Rhyngrwyd, darperir un printiad fel y mae ar y wefan trwy'r post o'r man cyswllt ar gyfer ceisiadau a welir uchod.


CWYNION

19 Os oes cwyn gennych am sut mae'r cynllun cyhoeddiadau'n cael ei redeg neu am sut mae'r Bwrdd Prawf wedi delio â chais am wybodaeth, dylech ysgrifennu at y Rheolwr Mynediad i Wybodaeth, Pencadlys Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys, Heol Llangynnwr, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PD. Os nad ydych yn fodlon ar y canlyniad, neu os nad ydych am drafod y mater gyda'r rheolwr gallwch gysylltu âr Prif Swyddog yn yr un cyfeiriad.
.

ADOLYGU

 

20 Bydd y Bwrdd Prawf yn adolygu'r cynllun cyhoeddiadau'n flynyddol ac yn ei fonitro'n rheolaidd.

DOSBARTHIADAU GWYBODAETH

21 Nod y Cynllun Cyhoeddiadau hwn yw darparu swm mawr o wybodaeth i'r cyhoedd ar fyrder, neu'n barhaus. Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i ryddhau rhagor o ddeunydd yn y dyfodol.

22 Bydd y Bwrdd yn rhyddhau deunydd yn y dosbarthiadau a ganlyn:

DATBLYGU A GWEITHREDU POLISI PRAWF

Dosbarth: astudiaethau, adroddiadau ymchwil, casgliadau o ystadegau gan staff y Bwrdd ac
arbenigwyr allanol sy'n berthnasol i berfformiad cyfredol ac i ddatblygu cynigion ar bolisi

Dosbarth: adroddiadau'r Arolygiaeth* ac ymatebion iddynt, penderfyniadau'r Ombwdsman

Dosbarth: eglurhad o'r cefndir i gynigion a phenderfyniadau lleol ar bolisi

Dosbarth: cyfarwyddyd lleol gan gynnwys rheoliadau/rheolau hosteli, manylebau rhaglenni ac ymyriadau lleol

Dosbarth: dogfennau ymgynghorol lleol, dogfennau ategol ac ymatebion

RÔL, SWYDDOGAETH a RHEOLAETH GWASANAETHAU PRAWF LLEOL

Dosbarth: adroddiadau blynyddol*, cynlluniau busnes*, agend'u cyfarfodydd byrddau

Dosbarth: siartiau trefniadol (gan hepgor enwau), rhestr o wasanaethau a ddarperir, gyda manylion cyswllt

Dosbarth: polisïau personel, polisi neu fentrau recriwtio lleol, taflenni, pecynnau gyrfaoedd

GWYBODAETH I'R CYHOEDD

Dosbarth: Cynllun Rhyddid Gwybodaeth*

Dosbarth: gweithdrefn gwynion leol*

Dosbarth: deunydd eglurhaol ar ymwneud y Bwrdd Prawf âr cyhoedd*, gan gynnwys rheolau, gweithdrefnau, cyfarwyddyd mewnol a llawlyfrau gweinyddol

Dosbarth: manylion am weithrediadau a rheoliadau ar orfodi a chydymffurfio mewn achosion lle bu ap'l

Dosbarth: taflenni cymorth i ddioddefwyr*, datganiad ar bolisi/arfer lleol


CAFFAEL, GRANTIAU, BENTHYCIADAU A GWARANTAU

Dosbarth: polisïau ar gaffael a chyflenwi

Dosbarth: gwybodaeth am brosiectau penodol gan gynnwys cyfleoedd i gynnig, meini prawf penderfyniadau, safonau perfformiad contractau, canlyniadau adolygiadau perfformiad rheolaidd, a chanlyniadau

Dosbarth: manyleb am gontractau a ddyfarnwyd

Dosbarth: polisïau ar ddyfarnu grantiau, benthyciadau a darparu gwarantau; manylion am grantiau a benthyciadau a ddyfarnwyd, manylion am adolygiadau a'u canlyniadau.


AREITHIAU ALLWEDDOL

Dosbarth: areithiau a chyflwyniadau gan brif reolwyr lleol


HYSBYSIADAU YN Y WASG/YMGYRCHOEDD AR Y CYFRYNGAU

Dosbarth: hysbysiadau/papurau briffio yn y wasg leol *

Dosbarth: dogfennau am ymgyrchoedd yn y cyfryngau lleol *


CYLCHLYTHYRAU

Dosbarth: cylchlythyrau a dogfennau tebyg a gyhoeddwyd yn lleol  

Oes gennych unrhyw ceision rhyddid gwybodaeth danfonwch at info@dyfedpowysprobation.org

 

Yn ôl i frig y dudalen