English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Tai

NOD

Sicrhau y caiff troseddwyr sydd ag anghenion tai eu hadsefydlu i dai addas a chynaladwy er mwyn lleihau’r perygl i’r gymuned, sicrhau y caiff rhaglenni triniaeth eu cyflwyno’n effeithiol, gwella cyflogadwyedd y troseddwr a sicrhau y gall chwarae rhan bositif yn y gymuned.

PWY

Troseddwyr ag anghenion tai sy’n sgorio 2 neu fwy yn adran 3 OASys ac y mae eu hanghenion tai yn gysylltiedig â niwed/ymddygiad troseddol.

 

BETH

Gellir darparu cymorth a chefnogaeth a nodir yn y cynllun dedfryd o fewn y Gofyniad Goruchwilio, Gofyniad Gwaith Di-dâl neu Drwydded.

Mae cwrs byr yn cael ei ddatblygu:
o I wella’r sgiliau sydd eu hangen i gael hyd i a sicrhau tai addas.
o Deall hawliau a chyfrifoldebau rheoli tenantiaeth.
o Datblygu’r sgiliau i gynnal eu tai.


Sut

• Asesiad o anghenion tai mewn perthynas â’r perygl o niwed a’r perygl o aildroseddu adeg cynllunio ac adolygu dedfrydau.
• Darparu cyngor ar dai.
• Cyfeirio at adrannau tai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
• Cyfeirio at brosiectau tai lle ceir cefnogaeth.
• Cyfeirio at brosiectau tai partneriaeth.

Hefyd, ac fel rhan o’r cwrs sy’n cael ei ddatblygu:

• Asesiadau cyn ac ar ôl ymyriadau.
• Datblygu sgiliau ymarferol.
• Cydnabod cyfrifoldebau bod yn denant a bod yn gymydog da.
• Yasgau ysgrifenedig.
• Trafodaethau ac ymarferion.


CAM NESAF

Adeg adrodd, sicrhau yr ymgymerir ag asesiad tai a nodi y bydd gwaith cynlluniedig yn digwydd i fynd i’r afael ag anghenion tai.

Wrth gynllunio dedfryd, y Rheolwr Troseddwyr i asesu a chyfeirio’r troseddwr ar gyfer llety gan ddefnyddio ffurflen cyfeirio tai Gwasanaeth Prawf Dyfed-Powys, gan anfon copi at y SGP Tai lleol fydd yn rheoli’r cyflawniad.


Yn ôl i Ymyriadau