|
Y
Model Rheoli Troseddwyr
Mae gan y Rheolwyr Troseddwyr yr awdurdod i gyfarwyddo’r
dilyniant ymyriadau yn seiliedig ar asesiad o’r troseddwr. Bydd
yna “Swyddog Cyfrifol” yn unol â’r disgrifiad
yn Neddf Cyfiawnder Troseddol 2003 Adran 5.3-5.6 a Safonau Cenedlaethol
2005.
Bydd
y Rheolwyr Troseddwyr yn datblygu cynllun dedfryd, ar y cyd â staff
allweddol eraill (gan gynnwys staff Gwasanaeth Carchar), a fydd yn cynnwys
elfennau carcharol a chymunedol y ddedfryd. Bydd y Rheolwr Troseddwyr
yn bwynt cyfeirio cyson i’r troseddwr ac yn cynhyrchu cynllun dedfryd
cydlynol sy’n gosod unrhyw ymyriadau yn y broses cynllunio dedfrydau
yn gyffredinol.
Gall
swyddogaeth y Goruchwyliwr Troseddwyr gael ei gweithredu
gan y Rheolwr Troseddwyr neu gellir enwebu Goruchwyliwr Troseddwyr. Fodd
bynnag, os yw troseddwyr yng nghyfnod carcharol eu dedfryd, ac wedi’u
cynnwys ym Model Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, fe fydd y Goruchwyliwr
Troseddwyr yn aelod staff yn y sefydliad lle mae’r troseddwr yn
bwrw tymor mewn carchar. Pan fo’r ddwy swyddogaeth wedi’u
rhannu, bydd y Goruchwyliwr Troseddwyr yn derbyn cyfrifoldeb ar ran y
Rheolwr Troseddwyr i ymgymryd â gwaith penodol a bod yn gyfryngwr
ar gyfer ymyriadau a ddynodwyd yn y Cynllun Dedfryd. Bydd y Goruchwylwyr
Troseddwyr yn cynorthwyo troseddwyr i gydymffurfio â'r ddedfryd
ac yn cynnal perthynas gynhyrchiol â staff eraill sy’n ymwneud
â’r troseddwyr.
Bydd
y Goruchwylwyr Troseddwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal cysylltiad
adeiladol â’r ddedfryd ac ysgogi a chefnogi’r Troseddwyr.
Bydd
y Gweithwyr Allweddol yn gweithredu’r gosb neu
ymyriad gofynnol o fewn fframwaith y Cynllun Dedfryd sengl. Byddant yn
aelod o’r Tîm Rheoli Troseddwyr ac yn rhan o’r broses
adolygu cynllunio dedfrydau.
Mae’r
Gweinyddwyr Achos yn hanfodol i weithrediad y Model Cenedlaethol
Rheoli Troseddwyr ac mae ganddynt gyfrifoldeb dros amseru, trefnu, a dilyn
gweithrediad pob elfen o’r cynllun dedfryd. Pan fo troseddwyr yng
nghyfnod carcharol eu dedfryd, ac wedi’u cynnwys ym Model Cenedlaethol
Rheoli Troseddwyr, fe fydd y Gweinyddwr Troseddwyr yn aelod staff yn y
sefydliad lle mae’r troseddwr yn bwrw tymor mewn carchar.
Y
Tîm Rheoli Troseddwyr yw’r grwp sy’n gweithio
gyda phob troseddwr yn unigol er mwyn gweithredu’r Cynllun Dedfryd.
Bydd yn cynnwys y swyddogaethau a ddisgrifir uchod a gall gynnwys staff
Carchar a staff Ardal Brawf Dyfed-Powys.
Trefniadau
Dosbarthu:
Egwyddor graidd Model Rheoli Troseddwyr NOMS yw bod adnoddau’n dilyn
risg. Mae'r Fframwaith Dosbarthu (Arweiniad i Staff PC65 /2005 a Gweithdrefnau
Rheoli Troseddwyr) yn cynnig canllawiau clir ynglyn â sut mae cyflawni
hyn yn ymarferol trwy ddefnyddio meini prawf cytunedig. Mae yna gysylltiad
hefyd â Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003, gydag argymhellion adroddiadau
llys yn cael eu cysylltu â difrifoldeb, risg a’r ‘ymagwedd’
orau ar gyfer pob troseddwr.
Mae’r
broses Ddosbarthu yn rhan hollbwysig o’r egwyddor graidd o fewn
Model Rheoli Troseddwyr NOMS i’r troseddwr. Mae’n cynnwys
cydnabod yr angen i gymhwyso’r fframwaith er mwyn cynnwys barn broffesiynol
wrth lynu wrth feini prawf y fframwaith. Mae defnyddio’r Fframwaith
Dosbarthu yn gywir yn elfen hollbwysig o gyflwyno Model Rheoli Troseddwyr
NOMS yn Nyfed-Powys a rhaid ei ddefnyddio fel sail dyrannu adnoddau i’r
ddedfryd a’r troseddwr.
Terfynau Dosbarth a Swyddogaeth:
Mae egwyddorion Model Rheoli Troseddwyr NOMS yn seiliedig ar fframwaith
o gael adnoddau i gyd-fynd â gwahanol risgiau ac anghenion y troseddwr
unigol. Felly, yr effaith weithredol yw bod “adnoddau yn dilyn risg”
a’r egwyddor ymyriadau “lleiaf angenrheidiol”. Mae Ardal
Brawf Dyfed Powys yn dilyn canllawiau’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
a’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) wrth ddewis
Rheolwyr Troseddwyr ar gyfer troseddwyr:-
Troseddwyr Dosbarth 1 a 2 - Rheolwyr Troseddwyr sy’n Swyddogion
Gwasanaeth Prawf (PSO)
Troseddwyr Dosbarth 3 a 4 - Rheolwyr Troseddwyr sy’n Swyddogion
Prawf (PO)
Gall y Goruchwyliwr Troseddwyr fod yr un person â’r Rheolwr
Troseddwyr. Fodd bynnag, gall Goruchwylwyr Troseddwyr PSO weithio gyda
throseddwyr ym mhob dosbarth, gyda chytundeb eu rheolwr llinell.
Rheoli
Troseddwyr o un pen-i’r-llall:
Mae’r broses Rheoli Troseddwyr o un pen-i'r-llall yn ganolog i Fodel
Rheoli Troseddwyr NOMS ac mae’n darparu’r fframwaith cyfunol
ar gyfer dewis, trefnu a gweithredu ymyriadau. Mae’n rhychwantu’r
holl ddedfryd ac mae iddi dair prif elfen:-
Rheolaeth: Mae'r broses gyffredinol yn eiddo i’r Rheolwr Troseddwyr
sy’n darparu cyfeiriad, trefn, cyflymder a ffurf y ddedfryd.
Goruchwylio: O fewn y model, dyma’r dilyniant o dasgau a gweithgareddau
beunyddiol ac wyneb yn wyneb sy'n ofynnol er mwyn sicrhau a chynnal cydymffurfiad
â’r ddedfryd.
Gweinyddu: Mae’r prosesau gweinyddu yn trefnu’r isadeiledd
cofnodi a chyfathrebu sy’n sicrhau gwneud y peth cywir ar yr adeg
gywir.
Dilyniant: Dylid cael dilyniant o ran rheolaeth, gofal a thriniaeth a
graddau rhesymol o ddilyniant o ran perthynas drwy’r ddedfryd. Dylai
hyn gynnwys cysondeb yn neges ac ymddygiad pawb sy'n gweithio gyda'r troseddwr.
Cynllunio
Dedfryd:
Mae Cynlluniau Dedfryd yn seiliedig ar yr asesiad OASys, sef nodi sut
a phryd y gweithredir gofynion y ddedfryd er mwyn delio ag anghenion a
risg troseddogenig. Rhaid i’r Cynllun gynnig trefn resymegol ar
gyfer ymyriadau a gosod amcanion mesuradwy a chyraeddadwy.
Rhaid datblygu’r Cynllun ar y cyd â’r troseddwr. Rhaid
ei rannu â holl aelodau’r Tîm Rheoli Troseddwyr a’i
adolygu ar yr adegau penodedig.
Mae’r Cynllun Dedfryd yn fodd i weithredu’r ddedfryd fel bod
llai o debygolrwydd o aildroseddu a llai o risg i eraill.
Yn
ôl
|