English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Rheoli Troseddwyr

Mae polisi Model Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yn seiliedig ar yr egwyddorion a phrosesau a ganlyn:

• Mae’r troseddwr unigol yn ganolog i'r broses ac yn ganolbwynt iddi;


• Asesir pob troseddwr yn ôl y tebygolrwydd o aildroseddu a’r risg o niweidio eraill, trwy ddefnyddio’r System Asesu Troseddwyr (OASys).


• Ymgymerir â phrosesau asesu, cynllunio dedfrydau, gweithredu ymyriadau, adolygu a gwerthuso gyda phob troseddwr ar yr adegau gofynnol;

• Mae gweithredu’r Model Rheoli Troseddwyr NOMS yn cyfuno egwyddorion allweddol cysondeb, dilyniant, ymrwymiad a chyfnerthiad ym mhob agwedd ar waith gyda throseddwyr;

 

 

Y Model Rheoli Troseddwyr

Gweithio gyda'r Llysoedd

Gwarchod y Cyhoedd (TACCA)

Troseddwyr Cyson a Throseddwyr a Blaenoriaeth

Gorfodi

Dioddefwr

Garchardai

 

• Mae pob troseddwr yn cael ei osod mewn Dosbarth gan ddefnyddio’r Fframwaith Dosbarthu Cenedlaethol (PC 65 /2005) ac Arweiniad Dyfed-Powys. Bydd hyn yn pennu faint o adnoddau sy’n cael eu neilltuo ynghyd â nodi gwybodaeth, sgiliau a chymwysterau’r rheolwr troseddwyr.


• Dyrennir gwaith gyda throseddwyr i’r staff priodol yn unol â’u gwybodaeth, hyfforddiant a sgiliau;


• Caiff Cynlluniau Dedfryd i’r Unigolyn eu cynllunio a’u gweithredu er mwyn diwallu amcanion y ddedfryd, anghenion troseddogenig y troseddwr a rheolaeth unrhyw faterion yn ymwneud â risg. Caiff y rhain eu rhannu a holl aelodau’r Tîm Rheoli Troseddwyr a’r troseddwr;


• Gweithredir Rheoli Troseddwyr ar gyfer Dedfrydau Carcharol yn unol â gofynion Uned Asesu a Rheoli Troseddwyr NOMS.


• Ni ddylai unrhyw droseddwyr gael eu trin yn wahanol mewn unrhyw ffordd oherwydd eu hil, crefydd, grwp ethnig, anabledd, oed neu dueddfryd rhywiol fel canlyniad i weithredu Model Rheoli Troseddwyr NOMS.