English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Troseddwyr Cyson a Throseddwyr â Blaenoriaeth

Yn 2004, rhoddwyd y cynllun Troseddwyr Cyson a Throseddwyr Eraill â Blaenoriaeth ar waith er mwyn targedu’r troseddwyr hynny sy’n gyfrifol am y troseddu mwyaf ac yn achosi'r niwed mwyaf i gymunedau lleol.

Mae’r Grwp Gweithredu ar y Cyd (JAG) yn cadw rhestr o droseddwyr cyson, ac mae’r rhestr hon yn cael ei diweddaru drwy’r amser. Gall y troseddwyr hyn gael eu cyfeirio i’r rhestr gan unrhyw asiantaeth sy’n cymryd rhan yng nghyfarfodydd misol JAG, ond yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf sy’n cynnig y rhan fwyaf o’r enwau. Ar ôl rhannu’r holl wybodaeth am y troseddwr, bydd JAG yn penderfynu a ddylid rhoi’r troseddwr ar y rhestr PPO. Pan fo troseddwyr yn cael eu rhoi ar y rhestr rhoddir gwybod iddynt, oni bai fod yna resymau gweithredol dros beidio â gwneud hynny.


Mae yna dair rhan i’r cynllun Troseddwyr Cyson a Blaenoriaethol:
1. Atal a Rhwystro
2. Dal a Dedfrydu
3. Adsefydlu ac Ymsefydlu


Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn cymryd rhan yn nwy ran gyntaf y cynllun hwn, ond yn bennaf rydym yn gyfrifol am y drydedd – adsefydlu ac ymsefydlu. Byddwn yn gwneud hyn trwy wneud yn siwr fod yr holl droseddwyr ar y rhestr hon yn cael goruchwyliaeth ddwys. Yn aml, mae gan y troseddwyr hyn broblem ynglyn â chamddefnyddio sylweddau ac felly rhaid i bob troseddwr cyson gael prawf cyffuriau gorfodol ar ôl gadael carchar. Os yw troseddwyr yn methu mynychu’r prawf neu’n cael canlyniad positif, rhaid iddynt ddychwelyd yn syth i’r carchar.


Mae ymchwil cynnar ynglyn â’r cynllun Troseddwyr Cyson a Throseddwyr â Blaenoriaeth wedi dangos ei fod wedi llwyddo i leihau troseddu.

Yn ôl