English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Datganiad Newyddion Dydd Llun 22 Hydref

TACAA Adroddiad Blynyddol

Gwarchod y Cyhoedd (TACAA)

Dechreuwyd ar y trefniadau lleol i asesu a rheoli’r risg a gyflwynir gan droseddwyr rhyw, troseddwyr treisgar a throseddwyr peryglus eraill yn Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys i gyd-fynd â chyflwyno Deddf Troseddwyr Rhyw 1997. Arweiniodd hyn at Heddlu Dyfed-Powys ac Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn gwneud trefniadau ar y cyd i asesu a rheoli troseddwyr rhyw cofrestredig, troseddwyr treisgar a throseddwyr peryglus eraill.

 

 

 

 

Roedd y trefniadau hyn ar y cyd yn cynnwys datblygu protocol rhwng yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf ac Adrannau’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn yr ardal, a’r asiantaethau hyn a ffurfiodd aelodaeth graidd proses Panel Amddiffyn y Cyhoedd Aml Asiantaeth (TACAA). Mae asiantaethau eraill sy’n cynnwys yr Awdurdodau ym maes Iechyd, Addysg a Thai yn cefnogi’r Trefniadau Amddiffyn Aml-Asiantaeth.

Adolygwyd a diweddarwyd y protocol gwreiddiol i roi ystyriaeth i newidiadau mewn deddfwriaeth a datblygiadau mewn asesu a rheoli risg. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion Adrannau 67 a 68 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 ac Adrannau 325 327 Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003, a nododd mai’r Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf yw’r Awdurdodau Cyfrifol mewn perthynas â TACAA. Mae Deddf Cyfiawnder Troseddol (2003) yn cynnwys y Gwasanaeth Carchardai fel y trydydd parti yn yr Awdurdod Cyfrifol mewn perthynas â’r Trefniadau Amddiffyn Aml-Asiantaeth.

Yn 2003 cafodd Canllawiau Trefniadau Amddiffyn y Cyhoedd Aml-Asiantaeth (TACAA) eu cyhoeddi gan Uned Gwarchod y Cyhoedd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. Mae protocol Dyfed-Powys yn dilyn y canllawiau hyn ac yn arddel yr un egwyddorion. Prif swyddogaethau TACAA yw:

• sefydlu trefniadau ar gyfer asesu a rheoli’r risgiau a gyflwynir gan droseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar;

• adolygu a monitro’r trefniadau; ac, fel rhan o’r trefniadau adolygu a monitro,

• paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch eu gweithredu.

Yng Nghanllawiau TACAA, nodir tri phrif gategori o droseddwyr sy’n dod dan Drefniadau Amddiffyn y Cyhoedd Aml-Asiantaeth:

Categori 1
Troseddwyr Rhyw Cofrestredig (TRhC), hynny yw y troseddwyr rhyw hynny sy’n gorfod cofrestru dan amodau Deddf Troseddau Rhywiol 2003

Categori 2
Troseddwyr treisgar a’r troseddwyr rhyw hynny nad ydynt yn gorfod cofrestru ac sy’n cael eu dedfrydu i 12 mis neu fwy o garchar

Categori 3
Unrhyw droseddwr arall sydd, oherwydd eu troseddau, yn cael eu hystyried fel rhai sy’n cyflwyno risg o niwed difrifol i’r cyhoedd.

Yn ystod 2003/04 rheolwyd 156 o droseddwyr trwy’r broses Trefniadau Amddiffyn y Cyhoedd Aml-Asiantaeth yn Ardal Prawf Dyfed-Powys. Mae staff Ardal Prawf Dyfed-Powys yn chwarae rhan allweddol yn y broses o asesu a rheoli’r troseddwyr. Mae’n waith pwysig ac yn cael blaenoriaeth dros agweddau eraill ar waith yr ardal.
Os hoffech chi dderbyn rhagor o wybodaeth am Drefniadau Amddiffyn y Cyhoedd Aml-Asiantaeth (TACAA), mae ar gael yn adroddiad blynyddol TACAA sydd ar gael ar wefan Heddlu Dyfed-Powys yn:

http://www.dyfed-powys.police.uk

Yn ôl