|
Recriwtio
Ydych
chi eisiau gyrfa sy'n werth chweil ac a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth
i fywydau pobl yn ogystal â diogelu ein cymunedau?
Gall
Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys gynnig:
• Gwaith sy’n rhoi boddhad,
• datblygiad gyrfa strwythuredig,
• y cyfle i ymuno â sefydliad proffesiynol.
Trwy
ganolbwyntio ar berfformiad a gwneud yn well na llawer o’n targedau,
rydym wedi dyrchafu i fod yn Ymddiriedolaeth Prawf flaengar, a symud yn
nes at ein gweledigaeth o fod yn un o’r sefydliadau gorau oll wth
i ni warchod y cyhoedd a lleihau troseddu. Rydym am i chi weithio gyda
dros 200 o staff ymroddedig, gan chwarae rhan allweddol wrth wneud Dyfed-Powys
yn lle mwy diogel.
Mae Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys wedi ymrwymo’n gryf i bolisi
o gyfle cyfartal ac mae yn erbyn pob math o wahaniaethu. Mae croeso i
geisiadau o bob rhan o’r gymuned, a dewisir ymgeiswyr ar sail eu
gallu i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd.
SWYDDI
YN Y GWASANAETH PRAWF CENEDLAETHOL |
| Prif
Weithredwr
Prif Swyddog Cynorthwyol
Rheolwr Adrannol
Swyddog Cosb yn y Gymuned
Swyddog Prawf
Swyddog Gwasanaeth Prawf
|
|
| Gweithiwr
Hostel
Goruchwyliwr Cosb yn y Gymuned
Gweinyddwr/aig
Swyddog Prawf dan hyfforddiant
Staff Gweinyddol
|
|
Cynllun
Swyddog Prawf dan Hyfforddiant
Y Diploma mewn Astudiaethau Prawf yw’r cymhwyster proffesiynol sy’n
rhoi statws Swyddog Prawf i hyfforddeion llwyddiannus yn amodol ar gyflogaeth
gan Fwrdd Prawf. Mae’r Diploma yn gymhwyster academaidd a galwedigaethol
cyfunol sy’n ymofyn bod hyfforddeion yn ennill Gradd Addysg Uwch
sy’n cynnwys NVQ Cyfiawnder Cymunedol ag unedau perthnasol o Safonau
Galwedigaethol Cyfiawnder Cymunedol. Cafodd y Rhaglen yng Nghymru ei chymeradwyo
gan Sefydliad Hyfforddi Cenedlaethol Cyfiawnder Cymunedol ar ran yr Ysgrifennydd
Cartref.
Mae gan y Gyfarwyddiaeth Brawf Genedlaethol gontract gyda Phrifysgol Cymru
Casnewydd ar gyfer darparu BA (Anrh.) mewn Cyfiawnder Cymunedol (Prawf).
Cafodd y radd ei dilysu gan Brifysgol Cymru a chaiff ei darparu yn rhannol
gan staff Prifysgol Cymru, Bangor. Bydd y dulliau addysgu yn cynnwys dysgu
o bell; gweithdai preswyl Cymru-gyfan yng Ngregynog, ger y Drenewydd yng
Nghanolbarth Cymru (cyfanswm o 18 niwrnod yn ystod y cyfnod hyfforddi);
a mynychu Campws Allt-yr-ynn ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd, a Phrifysgol
Cymru Bangor.
I gael rhagor o wybodaeth, byddwch cystal â chlicio yma -
www.probation.walestraining.gov.uk/officer/training_programme.html
Yn
ôl i'r brig
|