English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Gweithio gyda’r Llysoedd

Mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn gweithio gyda throseddwyr o adeg y gollfarn, neu’n gynharach ambell waith os ceir mechnïaeth i Adeilad Gwarchod.

Cyn dedfrydu troseddwr, gall y Barnwr neu’r Ynad ofyn am adroddiad gan y Rheolwr Troseddwyr. Yr adroddiad hwn yw’r Adroddiad Cyn Dedfrydu (PSR) ac ynddo caiff y Llys wybodaeth gefndirol am y troseddwr sy’n berthnasol i ddedfrydu, ynghyd ag argymhelliad ynglyn â dedfryd. Ategir yr adroddiad hwn gan y defnydd o'r System Asesu Troseddwyr (OASys), sef asesiad trwyadl o bob agwedd ar fywyd troseddwr a all ddylanwadu ar y risg o aildroseddu a niwed i’r cyhoedd.
 

Mae modd dewis un o dair ffurf ar gyfer yr adroddiad:


1. Adroddiad Llafar


Fel arfer pan nad oes angen llawer o wybodaeth neu os yw’r troseddwr yn hysbys. Bydd Rheolwyr Troseddwyr yn rhoi adroddiad llafar yn ôl y gofyn.


2. Adroddiad Cyflym:


Caiff hwn ei ysgrifennu naill ai ar ddiwrnod y dedfrydu neu o fewn pum niwrnod (pan ystyrir bod difrifoldeb yn fychan neu’n gymedrol). Fel arfer bydd y Llys yn ymofyn gwybodaeth gyfyngedig oherwydd mae Gorchymyn Cymunedol yn debygol, neu mae angen gwybodaeth benodol ar gyfer dedfryd garcharol.


3. Adroddiad Safonol


Gofynnir am y mathau hyn o adroddiad ar gyfer achosion lled ddifrifol a mwy difrifol. Bydd y Rheolwr Troseddwyr yn darparu asesiad llawn o’r troseddwr gan ddefnyddio OASys ar gyfer yr adroddiadau hyn. Mae angen y rhain pan fo’r Llys yn ystyried y posibilrwydd o Orchymyn Cymunedol neu Ddedfryd Garcharol.
Mae’r adroddiadau hyn i gyd yn darparu gwybodaeth am y troseddwr yn ogystal â:


• Manylion am y drosedd
• Unrhyw amgylchiadau’n ymwneud â’r drosedd
• Asesiad o lefel y risg gan y troseddwr i’r cyhoedd
• Y tebygolrwydd o aildroseddu
• Awgrymiadau ynglyn â dedfryd briodol


Mae’r Llys sy’n dedfrydu yn ystyried hyn i gyd cyn gwneud y penderfyniad terfynol.


Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd yn lleol a rhanbarthol gyda Gwasanaeth Llysoedd EM er mwyn gwneud yn siwr fod y berthynas waith agos sydd gennym yn parhau a bod unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gweithredu’n gywir.

Yn ôl