|
Cynllun
Iaith Gymraeg
DATGANIAD
Bydd Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn cydymffurfio â gofynion
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Maer Ymddiriedolaeth wedi mabwysiadur egwyddor y bydd,
wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg ar
Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Maer Cynllun hwn yn
nodi sut y bydd yr Ardal yn gweithredur egwyddor honno wrth
ddarparu gwasanaethau ir cyhoedd yng Nghymru.
|
|
|
Maer Ymddiriedolaeth yn cydnabod y gall unigolion fynegi eu hunain,
eu barn au hanghenion yn well yn eu dewis iaith. Gan hynny mae eu
galluogi i ddefnyddiou dewis iaith yn fater o arfer da yn hytrach
na goddefgarwch. Maer Ymddiriedolaeth yn cydnabod y byddai gwadur
hawl iw defnyddwyr ddefnyddiou dewis iaith yn eu rhoi dan
anfantais wirioneddol. Nod yr Ymddiriedolaeth felly yw sicrhau y gall
pawb syn dod i gysylltiad ag unrhyw agwedd ar ei wasanaeth ir
cyhoedd wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neur Saesneg yn ôl
eu dewis personol.
1.0
Y SEFYDLIAD
1.1 Sefydlodd Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 y Gwasanaeth
Prawf Cenedlaethol dros Loegr a Chymru, o 1 Ebrill 2001. Mae hwn yn gynllun
newydd yn dilyn unor ddau hen Wasanaeth Prawf yn Nyfed a Phowys.
Y Bwrdd Prawf lleol syn gyfrifol am reoli Ymddiriedolaeth Prawf
Dyfed, ac maen gorff corfforaethol syn gyfreithiol atebol
am y gwasanaethau y maen gyfrifol am eu darparu.
1.2 Mae Bwrdd Prawf Dyfed Powys yn cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion,
Penfro a Phowys. Prif swyddfeydd yr Ymddiriedolaeth yw:
Pencadlys, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 2PD
Swyddfeydd Lleol;
23 Lôn Ysbyty Gray, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1DE
Plas-y-Ffynon, Aberhonddu, Powys, LD3 7DS
7a/7b Heol D_r, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1PY
14 Heol Fawr, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1DA
The Limes, Stryd y Deml, Llandrindod, Powys, LD1 5DP
Stryd Lloyd, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2UP
Ty Straight Lines, New Road, Y Drenewydd, Powys, SY16 1BB
1.3 Nodaur Gwasanaeth yw:
Gwarchod y cyhoedd
Cael llai o aildroseddu
Cosbi troseddwyr yn gywir yn y gymuned
Sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol o effeithiau trosedd ar ddioddefwyr
trosedd ar cyhoedd
Ailsefydlu troseddwyr
1.4 Prif swyddogaethaur Gwasanaeth yw:
Darparu Adroddiadau Cyn Dedfrydu ac Adroddiadau Dedfryd Benodol
a chyngor i Lysoedd y Goron ac Ynadon.
Goruchwilio troseddwyr syn destun gorchmynion llys
Goruchwilio troseddwyr a ryddheir o sefydliadaur adran carchardai
ar drwyddedau o ryddhad o gaethiwed oes, parôl a thrwyddedau eraill.
2.0 CYFLWYNO A CHYNLLUNIO GWASANAETHAU
2.1 POLISIAU A MENTRAU NEWYDD
2.1.1 Bydd pob un o bolisïau a mentrau newydd yr Ymddiriedolaeth
yn ddarostyngedig ir egwyddor bod y Gymraeg ar Saesneg yn
gyfartal ac ni fyddant felly yn wahanol ir polisïau ac arferion
syn bodoli eisoes ac a gynhwysir yn y cynllun hwn. Mae Bwrdd yr
Iaith Gymraeg wedi cymeradwyo Cynllun Iaith Gymraeg gwahanol ar gyfer
y Swyddfa Gartref syn cynnwys ei gweithrediadau yng Nghymru. Bydd
cyswllt rheolaidd âr Rheolwr Rhanbarthol ar Gyfarwyddiaeth
Genedlaethol yn parhau er mwyn sicrhau bod yr egwyddor o gydraddoldeb
yn dal yn ystyriaeth allweddol mewn unrhyw ddatblygiadau a hefyd er mwyn
sicrhau gweithredu unffurf a chyson wrth ddatblygur ddarpariaeth
o wasanaeth dwyieithog ledled Cymru.
2.1.2 Wrth lunio polisïau a mentrau newydd, bydd yr Ymddiriedolaeth:
yn asesu effaith ieithyddol unrhyw bolisïau a mentrau newydd
ac yn sicrhau eu bod yn gydnaws âr Cynllun Iaith Gymraeg
yn sicrhau y cymhwysir y mesurau a geir yn y Cynllun i bolisïau
a mentrau newydd wrth eu gweithredu
yn sicrhau nad yw unrhyw bolisi neu fenter newydd yn tanseilio
ein Cynllun Iaith Gymraeg ni na Chynllun Iaith darparwyr eraill
yn hyrwyddo a hwylusor defnydd or Gymraeg lle bynnag
y bo modd a bydd yn manteisio ar bob cyfle i weithredur egwyddor
o gydraddoldeb.
yn ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymlaen llaw ynghylch
unrhyw gynigion a fydd yn effeithio ar y Cynllun neu ar Gynllun unrhyw
gorff cyhoeddus arall. Ni chaiff y Cynllun ei newid heb gydsyniad y Bwrdd
yn sicrhau y bydd y rhai syn ymwneud â llunio polisi
(yng Nghymru ar tu allan) yn ymwybodol or Cynllun ac o gyfrifoldebaur
Ardal o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, a bod ein holl staff yn dod
yn ymwybodol or Cynllun trwy seminarau, gweithdai, canllawiau ysgrifenedig
ac ati.
2.2 CYFLWYNO GWASANETHAU
2.2.1 Bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau y bydd pob agwedd ar ei gwasanaeth
ir cyhoedd yng Nghymru ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg trwy:
Fabwysiadu gweithdrefnau syn hwyluso darparu gwasanaethau
yn newis iaith defnyddwyr y gwasanaeth;
Sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ledled yr Ymddiriedolaeth ar gael
i gynorthwyo swyddfeydd eraill pan fydd angen er mwyn gweithredur
cynllun yn effeithiol;
Defnyddio cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol annibynnol
lle mae angen a chreu rhestrau o ddarparwyr;
Sefydlu Gr_p Gweithredur Cynllun Iaith Gymraeg er mwyn goruchwilio
gweithrediad y cynllun, trafod problemau a rhannu syniadau, ac i adrodd
ir Tîm Uwchreoli a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn rheolaidd. Bydd
y Gr_p hwn yn gynrychiadol gan gynnwys staff o wahanol Dimau/Unedau ac
ardaloedd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth or Cynllun ai berchnogaeth
sydd ill dau yn rhan annatod oi lwyddiant.
2.2.2 Bydd y mesurau a nodir yn berthnasol ir holl wasanaethau a
gyflwynir ir cyhoedd.
2.2.3 Caiff Cynllun Iaith Gymraeg yr Ymddiriedolaeth ei esbonio i bob
aelod or staff ac i Fwrdd Prawf Dyfed Powys. Byddwn yn eu gwneud
nhwn llwyr ymwybodol o oblygiadaur cynllun ar rhan sydd
ganddynt fel unigolion iw chwarae yn ei lwyddiant, trwy ffurfio
timau, ac ati.
2.2.4 Bydd rheolwyr yn llwyr ymwybodol or cynllun hwn a byddant
yn gyfrifol am sicrhau y caiff yr holl ofynion eu hadlewyrchu yn eu meysydd
gwaith ac y cânt eu gweithredu mewn gwaith a wneir gan unigolion
a sefydliadau eraill o dan eu cyfarwyddyd.
2.2.5 Bydd yn ofynnol i sefydliadau eraill syn cyflwyno gwasanaethau
ir cyhoedd ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys ddatgan
eu hymrwymiad i gydraddoldeb iaith yn eu contractau neu gytundebau lefel
gwasanaeth. Bydd y sefydliadau hyn yn cynnwys pob un or asiantaethau
syn bartneriaid, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys PRISM, Canolfannau
Cyffuriau ac Alcohol Powys, Tai Trothwy, a Her Powys.
2.3 SAFONAU
2.3.1 Bydd safon y gwasanaeth yn Gymraeg gystal âr gwasanaeth
yn Saesneg. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau ei bod yn darparu safon
gyson o wasanaeth yn Gymraeg ym mhob gweithgaredd ac mewn gwahanol leoedd.
2.3.2 Caiff gwybodaeth am yr ymrwymiad i gydraddoldeb iaith ei chynnwys
mewn dogfennau allweddol gan gynnwys y Cynlluniau Sefydliadol a Busnes.
2.3.3 Bydd cyflwyniad y gwasanaeth yn y ddwy iaith yn cyd-fynd âr
ymrwymiadau presennol i safonau a nodir yn Siarter y Dinesydd a dangosyddion
perfformiad eraill syn effeithio ar ymwneud âr cyhoedd,
e.e. Safonau Cenedlaethol Prawf ,
2.3.4 Caiff y safonau a gymhwysir at wasanaethau Cymraeg au gweithrediad
eu monitron flynyddol.
3.0
DEALING WITH THE WELSH SPEAKING PUBLIC
3.1 WRITTEN COMMUNICATION
3.1.1 Mae Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig
yn Gymraeg a Saesneg a chaiff gohebiaeth ei hateb yn iaith y llythyr gwreiddiol.
3.1.2 Bydd papur ysgrifennu swyddogol yn cynnwys datganiadau yn y ddwy
iaith ac yn ei gwneud hin glir fod croeso i ohebiaeth yn y naill
iaith neur llall.
3.1.3 Bydd yr un graddfeydd amser yn berthnasol boed yr ymateb yn Gymraeg
neu yn Saesneg.
3.1.4 Bydd staff yn darganfod ym mha iaith y mae defnyddiwr gwasanaeth
am dderbyn gohebiaeth ac yn ymateb yn unol â hynny e.e. gellir gwneud
hyn trwy nodir dewis iaith mewn lle amlwg ar y ffeil achos ac yn
y System Cofnodi a Rheoli Achosion electronig adeg y cyswllt cyntaf âr
defnyddiwr gwasanaeth. Gall y defnyddiwr gwasanaeth newid y drefn hon
ar unrhyw adeg.
3.1.5 Bydd pob cylchlythyr neu lythyr safonol at y cyhoedd yn ddwyieithog.
3.1.6 Bydd cyswllt âr cyhoedd trwy gyfryngau cyfrifiadurol
yn cydymffurfio âr mesurau hyn.
3.1.7 Darperir canllawiau ysgrifenedig i'r staff er mwyn sicrhau y caiff
y mesurau hyn eu gweithredu.
3.2 3.2 GALWADAU FFÔN
3.2.1 Maer gwasanaeth yn croesawu ymholiadau dros y ffôn yn
Gymraeg a Saesneg.
3.2.2 Atebir pob galwad allanol yn ddwyieithog.
3.2.3 Trosglwyddir galwyr sydd am siarad yn Gymraeg i aelod or staff
syn siarad Cymraeg.
3.2.4 Oni fydd siaradwr Cymraeg ar gael, bydd y person syn ateb
y galwad yn nodi enw a rhif ffôn y galwr ac yn sicrhau bod siaradwr
Cymraeg yn dychwelyd yr alwad o fewn un diwrnod gwaith.
3.2.5 Darperir cyfeiriadur o siaradwyr Cymraeg yn yr Ardal fel canllaw
i gysylltwyr ac eraill sydd angen trosglwyddo galwyr.
3.2.6 Bydd gan negesau peiriant ateb neges fer wedii recordion
ddwyieithog yn gwahodd y galwr i adael neges yn y naill iaith neur
llall. Darperir canllawiau ysgrifenedig ir staff.
3.3 3.3 CYFARFODYDD CYHOEDDUS
3.3.1 Croesawir cyfraniadau yn Gymraeg a Saesneg mewn cyfarfodydd cyhoeddus
a drefnir gan yr Ardal.
3.3.2 Bydd hysbysiadau cyhoeddus a phapurau eraill syn nodir
trefniadau ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus yn ei gwneud hin glir
y gellir siarad y ddwy iaith a byddant yn gwahodd cyfranogwyr i roi gwybod
ir trefnwyr am eu dewis iaith.
3.3.3 Bydd y trefnwyr yn penderfynu a oes angen cyfleusterau cyfieithu
gan ystyried lleoliad y cyfarfod, pwy syn debyg oi fynychu,
y pwnc dan sylw ac a ywr trefnwyr wedi cael gwybod am ddewis iaith
y cyfranogwyr.
3.3.4 Gwneir y trefniadau a ganlyn yn unol âr trefniadau yr
ystyrir bod eu hangen:
Llogi man cyfarfod â chyfleusterau cyfieithu
Llogi offer a chyfieithwyr mewn mannau cyfarfod heb y cyfleusterau
hyn
3.3.5 Rhoddir arweiniad i bob aelod or staff ar Bwrdd syn
gyfrifol am drefnu cyfarfodydd cyhoeddus.
3.3.6 Gall aelodau or cyhoedd fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Prawf
a chyfarfodydd y Pwyllgor Perfformiad ac Adnoddau. Maer rhain yn
gyfarfodydd syn agored ir cyhoedd, yn wahanol
i gyfarfodydd cyhoeddus. Dangosir hysbysiadau syn nodi
dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd or Bwrdd a Phwyllgorau yn Gymraeg
a Saesneg ym mhob un o safleoedd swyddfeydd y Gwasanaeth Prawf.
3.4
CYFARFODYDD ERAILL ÂR CYHOEDD
3.4.1 Bydd yr Ardal yn sicrhau bod pawb syn dymuno neun gorfod
cyfarfod wyneb yn wyneb âr Ardal yn gallu gwneud hynny yn
Gymraeg neu Saesneg ac yn rhoi gwybod iddynt ymlaen llaw bod modd iddynt
wneud hynny. Gwneir hyn trwy lythyrau, hysbysebion a dros y ffôn.
3.4.2 Oni fydd siaradwr Cymraeg ar gael pan fydd aelodau or cyhoedd
yn ymweld â swyddfeydd prawf ac yn dymuno siarad Cymraeg, cynigir
ffonio aelod or staff mewn swyddfa arall syn siarad Cymraeg.
3.4.3 Bydd staff yn darganfod ac yn cofnodi dewis iaith y defnyddiwr gwasanaeth
adeg y cyswllt cyntaf.
3.4.4 Hysbysir sefydliadau eraill syn bartneriaid o ddewis iaith
defnyddwyr gwasanaethau.
3.4.5 Cymerir camau i sicrhau bod staff Cymraeg yn gweithio mewn derbynfeydd
lle mae aelodau Cymraeg or cyhoedd yn galwn aml.
4.0
WYNEB CYHOEDDUS Y GWASANAETH
4.1
DELWEDD GORFFORAETHOL
4.1.1
Enwr Ymddiriedolaeth yw National Probation Service for England and
Wales Dyfed-Powys/ Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Loegr a Chymru Dyfed-Powys.
4.1.2 Bydd y ddelwedd gorfforaethol yn gwbl ddwyieithog er mwyn adlewyrchu
polisir Ymddiriedolaeth o gyflwyno gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaeth
yn eu dewis iaith.
4.1.3 Bydd pob gwybodaeth syn hyrwyddor Ymddiriedolaeth yn
ymddangos yn y ddwy iaith yr un mor amlwg ar bob arwydd dan do ac yn yr
awyr agored ac ar gerbydau modur o eiddor Gwasanaeth.
4.1.4 Bydd yr enw ar cyfeiriad ac unrhyw wybodaeth safonol arall
yn ymddangos yn y ddwy iaith ar bob pennawd llythyr, slip cyfarchion,
cerdyn busnes, cyhoeddiad ac adroddiad.
4.2 CYHOEDDI AC ARGRAFFU DEUNYDD
4.2.1 Bydd pob deunydd a gyhoeddir ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru, megis
yr adroddiad blynyddol, cynllun busnes, posteri, taflenni a llyfrynnau
fel arfer yn ddwyieithog gydar ddwy iaith yn ymddangos yn yr un
ddogfen.
4.2.2 Os cyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y
ddau fersiwn yn ymddangos yr un pryd, yn cael eu dosbarthu gyda'i gilydd,
or un ansawdd a byddant yr un mor hawdd iw cael. Ni fydd hyn
yn digwydd ond dan amgylchiadau lle byddai maint y ddogfen yn ei gwneud
hin anhylaw. Fel arall bydd pob eitem yn ddwyieithog mewn un dogfen.
4.2.3 Bydd cardiau adnabod, gwarant a mynediad yr Ymddiriedolaeth yn ddwyieithog.
4.2.4 Bydd yn ofynnol i bob swyddfa sicrhau bod dogfennau a arddangosir
megis hysbysiadau a phosteri yn defnyddior ddwy iaith.
4.2.5 Bydd yr Ymddiriedolaeth yn rhoi gwybod i asiantaethau allanol boed
yn gyrff preifat, cyhoeddus neu wirfoddol, y maer Ymddiriedolaeth
yn arddangos a dosbarthu eu gwybodaeth, bod angen fersiynau Cymraeg a
Saesneg.
4.2.6 Bydd pob deunydd arddangos a stondin arddangos cyhoeddus a grëir
gan neu ar ran yr Ardal iw ddefnyddio yng Nghymru yn ddwyieithog.
4.2.7 Bydd pob hysbysiad ir wasg ar cyfryngau yng Nghymru
yn ddwyieithog ac yn cynnwys enw cyswllt ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
4.2.8 Bydd pob hysbyseb a hysbysiad yn y wasg, ar hysbysfyrddau ac unrhyw
gyfrwng arall yn gwbl ddwyieithog, gan drin y ddwy iaith yn gyfrifol o
ran diwyg, maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd. Fodd bynnag, mewn cyhoeddiadau
Cymraeg byddant yn Gymraeg yn unig.
4.2.9 Bydd hysbysebion am swyddi y maer Gymraeg yn hanfodol ar eu
cyfer yn Gymraeg yn unig ym mhob cyhoeddiad. Os na fydd siaradwr Cymraeg
â chymwysterau digonol yn ymgeisio, bydd y swydd yn cael ei hail
hysbysebu yn Gymraeg a Saesneg, gan nodi y bydd disgwyl ir ymgeisydd
llwyddiannus fedrur Gymraeg neu gyrraedd safon benodol. Bydd is-bennawd
yn Saesneg yn esbonio bod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol
ar gyfer y swydd syn cael ei hysbysebu.
4.2.10 Os bydd arolygon yn digwydd, boed wyneb yn wyneb neu ar ffurf holiaduron
ysgrifenedig, bydd modd dewis iaith y cyfweliad neu gael cwestiynau dwyieithog.
5.0
GWEITHREDU A MONITROR CYNLLUN
5.1 STAFFIO
5.1.1
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ganddi ddigon
o staff i ddarparu gwasanaeth llawn yn Gymraeg a Saesneg ledled Ymddiriedolaeth
Dyfed Powys. Bydd hefyd yn mabwysiadu strategaeth sgiliau ieithyddol,
a fydd yn cynnwys nodir gweithleoedd a swyddi hynny lle maer
gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar rheiny lle maen ddymunol,
er mwyn adnabod yr hyfedredd ym mhob achos a llunio disgrifiadau swyddi
a geirio hysbysebion er mwyn diwallur anghenion ieithyddol. Caiff
y rhaglen ei gweithredu gan reolwyr ac eraill syn gyfrifol am recriwtio,
hyfforddi a goruchwilio staff.
5.1.2 Bydd yr Ymddiriedolaeth yn mabwysiadur arferion a ganlyn er
mwyn diwallur nodau hyn:
sicrhau bod gan bob adran sydd â chyswllt âr
cyhoedd ddigon o siaradwyr Cymraeg â sgiliau priodol neu fynediad
i siaradwyr Cymraeg
lleoli staff Cymraeg yn bennaf er mwyn cynorthwyo lle mae canran
uchel o siaradwyr Cymraeg.
cyflogi staff Cymraeg i ddiwallu unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu
cynnwys gofyn am siaradwyr Cymraeg wrth hysbysebu am staff newydd
fel y maen briodol
darparu hyfforddiant ac anogaeth briodol ar gyfer staff lleol
defnyddio hwyluswyr Cymraeg eu hiaith, cyfieithwyr neu gyfieithwyr
ar y pryd yn ôl y galw
5.1.3 Cynhelir archwiliad cychwynnol o sgiliau ieithyddol yr holl staff
er mwyn pennur sefyllfa bresennol.
5.1.4 Caiff nifer y staff Cymraeg ei monitron rheolaidd a chymerir
camau i newid y sefyllfa yn ôl yr angen.
5.1.5 Rhoddir cyhoeddusrwydd ir ffaith bod croeso i siaradwyr Cymraeg
ymuno âr gweithlu trwy sicrhau bod:
pob hysbyseb swydd yn ymddangos yn ddwyieithog
yr wybodaeth a drosglwyddir i Ganolfannau Gwaith yn ddwyieithog
HYFFORDDIANT
5.1.6 Maer Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i annog aelodau or
staff i ddysgu neu loywi eu Cymraeg. Bydd yn cefnogi ac yn galluogir
rhai sydd am wneud hynny trwy gyfrannun ariannol at gost mynychu
dosbarthiadau nos. Cytunir ar faint y cyfraniad yn flynyddol.
5.1.7 Bydd yr Ymddiriedolaeth yn trefnu rhaglenni dysgu a hyfforddiant
syn canolbwyntio ar weithleoedd a swyddi syn bwysig i weithrediad
y cynllun.
5.1.8 Bydd yr Ymddiriedolaeth yn asesur angen am hyfforddiant galwedigaethol
er mwyn hwyluso gweithrediad y cynllun.
RECRIWTIO
5.1.9 Pan ystyrir bod gallu ieithyddol yn hanfodol neun ddymunol
ar gyfer unrhyw swydd, nodir hyn wrth recriwtio ar gyfer y swydd honno.
5.1.10 Rhoddir disgrifiad yn y polisi recriwtio or camau sydd iw
cymryd er mwyn pennu blaenoriaethau a rhoi cyhoeddusrwydd ir ffaith
bod croeso i siaradwyr Cymraeg ymuno âr gweithlu.
5.1.11 Pan benodir person di-Gymraeg i swydd lle ystyrir y gallu i siarad
Cymraeg yn hanfodol, bydd amod ar y penodiad y bydd yn ofynnol dysgu Cymraeg
ir safon angenrheidiol o fewn cyfnod rhesymol y cytunir arno, gyda
chefnogaeth lawn yr Ymddiriedolaeth.
5.2 TREFNIADAU GWEINYDDOL
5.2.1 Mae gan y cynllun hwn gefnogaeth, cydsyniad a chefnogaeth llawn
Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys, ei Brif Swyddog ai dîm
rheoli.
5.2.2 Ymgynghorwyd âr staff yn ei gylch trwyr Cydbwyllgor
Trafod ac Ymgynghori a Gr_p Gweithredur Cynllun Iaith Gymraeg, cyn
ei gyflwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
5.2.3 Polisi Bwrdd Prawf Dyfed Powys ywr Cynllun a bydd y Prif Swyddog
yn adrodd ir Bwrdd am ei weithrediad o leiaf unwaith y flwyddyn
yn ogystal â chynnwys diweddariad am gynnydd yn adroddiad blynyddol
y Bwrdd.
5.2.4 Gwneir pob aelod or staff yn ymwybodol o oblygiadaur
cynllun.
5.3 GWASANAETHAU A GYFLWYNIR AR RAN BWRDD PRAWF DYFED-POWYS
5.3.1 Bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau:
bod unrhyw amodau, cytundebau, contractau neu drefniadau â
thrydydd parti syn ymwneud â darparu gwasanaethau ir
cyhoedd yn cydymffurfio âr cynllun hwn.
y caiff gweithdrefnau priodol ar gyfer monitro cydymffurfiad âr
Cynllun eu sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys derbyn adroddiadau cyfnodol gan
bartner-asiantaethau a chontractwyr.
Yn ogystal, bydd angen sicrhau y darperir canllawiau ysgrifenedig
ar gyfer staff syn delio ag asiantau a chontractwyr ac ar gyfer
y trydydd parti eu hunain.
5.4 MONITRO
5.4.1 Caiff gweithrediad y cynllun ei fonitro. Y Rheolwr Adnoddau Dynol
fydd yn gyfrifol am hyn, a bydd yn adrodd yn rheolaidd ir Bwrdd
Prawf.
5.4.2 Caiff yr eitemau a ganlyn eu cynnwys
cynllunio ymlaen a chaffael
- sicrhau y bydd polisïau, gweithdrefnau, cyhoeddiadau a rhaglenni
cyfrifiadurol yn gydnaws â chyflwyno gwasanaeth dwyieithog ar sail
cydraddoldeb
trefnu a chyflawni gwasanaethau
- gweithredu trefniadau ar gyfer cyflwyno gwasanaethau yn Gymraeg au
heffeithiolrwydd
- pa mor dda y maer Ardal yn annog ac yn hwylusor defnydd
or Gymraeg gan bartïon eraill
delio âr cyhoedd Cymraeg
- gweithredur polisi ffôn
- amser ymateb i ohebiaeth Gymraeg
- dosbarthu staff i swyddfeydd
- trefniadau ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus
- amgylchedd dwyieithog mewn swyddfeydd cyhoeddus
- cynnal arolygon barn o bryd iw gilydd i gael barn siaradwyr Cymraeg
syn defnyddior gwasanaeth ynghylch ystod ac ansawdd y gwasanaethau
a ddarperir
delwedd gorfforaethol
- gweithredu ym mhob swyddfa
- cyhoeddiadau, ffurflenni, posteri a hysbysiadau dwyieithog
staffio
- nodi anghenion ieithyddol mewn swyddfeydd a staffio yn ôl yr angen
- ymateb i hysbysebion recriwtio
- canran y staff syn siarad Cymraeg
- Bydd yr Ardal yn ymrwymo i ddarparu hyfforddiant ar gyfer yr aelodau
hynny or staff syn dymuno dysgu Cymraeg
asiantau a chontractwyr
- gwirio ansawdd gwasanaeth dwyieithog darparwyr allanol
amserlen
- bydd Gr_p Gweithredur Cynllun Iaith Gymraeg yn sicrhau y glynir
wrth yr amserlen ar ddiwedd y Cynllun hwn
cwynion
- creu trefnau cwyno ar gyfer y cyhoedd a hysbysebur broses hon
trwy gyfrwng taflenni
5.4.3 Bydd y broses fonitron cynnwys:
- cofnodi cwynion, canmoliaeth ac awgrymiadau ar gyfer gwella
- trafodaethau â staff a chwsmeriaid
- adolygu cyhoeddiadau newydd
- nifer y staff syn siarad Cymraeg ar nifer syn dysgu
5.4.4 Caiff y Cynllun Iaith Gymraeg ei ariannu gan Fwrdd Prawf Dyfed-Powys
o fewn blwyddyn iw gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg
5.5
TARGEDAU
5.5.1 Pennir targedau i gynnwys:
- gweithredu yn ôl yr amserlen
- nifer y staff dwyieithog
- ymateb i ohebiaeth
- effeithiolrwydd cyswllt wyneb yn wyneb a thros y ffôn âr
cyhoedd
- cysondeb yr hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog
- ansawdd cyhoeddiadau dwyieithog
- effeithiolrwydd trefniadau ar gyfer cyfarfodydd
5.5.2 Cyhoeddir manylion y cynnydd yn adroddiad blynyddol Bwrdd Prawf
Dyfed-Powys ac esbonnir unrhyw ddiffyg perfformio ynghyd â manylion
unrhyw gamau gweithredu i unionir sefyllfa.
5.6 5.6 CYHOEDDI GWYBODAETH
5.6.1 Mae Ardal Brawf Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gyhoeddi gwybodaeth syn
cymharu perfformiad âr safonau a thargedau a nodir yn y cynllun
hwn yn gyson. Bydd yn cynnwys adroddiadau blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg
a Bwrdd Prawf Dyfed-Powys am faterion megis:
- canran yr ymatebion i ohebiaeth Cymraeg a dderbynnir o fewn y terfynau
amser penodedig;
- canran y cyhoeddiadau a gyhoeddir yn ddwyieithog, ac yn ôl y meini
prawf yn y cynllun;
- perfformiad o ran cyrraedd terfynau amser ar gyfer prosesu hawliadau
a cheisiadau a wneir yn Gymraeg;
- canran y siaradwyr Gymraeg mewn swyddi lle nodir bod y gallu i siarad
Cymraeg yn ddymunol
5.6.2 Os na chyrhaeddir y safonau a gyhoeddwyd, bydd Ymddiriedolaeth Prawf
Dyfed Powys yn esbonior rhesymau pam ac yn egluro pa gamau y bydd
yn eu cymryd er mwyn unionir sefyllfa.
5.7 CYHOEDDUSRWYDD
5.7.1 Bydd cyhoeddusrwydd am y gwasanaeth Cymraeg yn cynnwys i ba raddau
y gall y cyhoedd ddelio âr sefydliad yn Gymraeg, pa wasanaethau
sydd ar gael, pryd a ble maent ar gael. Gwneir hyn trwy gyfrwng taflenni,
posteri, negesau electronig a briffiau mewn papurau newydd.
5.7.2 Dangosir posteri mewn swyddfeydd yn gwahodd pobl i ddefnyddiou
dewis iaith wrth gynnal eu busnes.
5.7.3 Caiff canllawiau eu paratoi au dosbarthu ymhlith yr holl staff.
5.7.4 Bydd pob cyhoeddusrwydd am y cynllun yn nodi wrth bwy y dylid cyfeirio
cwynion am ei weithrediad. Cofnodir yr holl gwynion a rhoddir sylw iddynt
yn unol âr drefn gwyno, gan gynnwys cydnabyddiaeth ysgrifenedig.
5.7.5 Dylid cyfeirio cwynion ac awgrymiadau ynghylch y Cynllun Iaith Gymraeg
yn ysgrifenedig at Caroline Morgan, Prif Swyddog, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
dros Loegr a Chymru Dyfed Powys, Y Pencadlys, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin,
Sir Gaerfyrddin, SA31 2PD.
5.7.6 Bydd yr Ymddiriedolaeth yn annog ac yn croesawu awgrymiadau gan
staff ar cyhoedd yngl_n â gwella unrhyw agwedd ar y Gwasanaeth
Cymraeg. Dangosir hysbysebion ir perwyl hwn yn y mannau cyhoeddus
mewn swyddfeydd. Bydd pob awgrym a dderbynnir yn cael ei gydnabod yn ysgrifenedig.
5.7.7 Cyflwynir adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn rhoi manylion
am y cynnydd mewn perthynas â gweithredur mesurau yn y cynllun
yn ôl yr amserlen a safonau cymeradwy, ac a fydd yn dadansoddi nifer
a natur unrhyw gwynion ac awgrymiadau gan y cyhoedd ar gyfer gwella.
6.0
TARGEDAU GWEITHREDU
Mesur Dyddiad Targed
2.1.1 Polisïau a Mentrau Newydd Parhaus
CYFLWYNO GWASANAETHAU
2.2.3 Hysbysiad ysgrifenedig am y polisi ir staff ar Bwrdd
Tachwedd 03
2.2.5 Amodau mewn cytundebau a chontractau gydag phartner-asiantaethau
Ebrill 04
SAFONAU
2.3.1 Safonau cyfartal yn y ddwy iaith Parhaus
2.3.2 Cynnwys gwybodaeth am gydraddoldeb ieithyddol mewn dogfennau allweddol
Parhaus
2.3.4 Monitro blynyddol Blynyddol
GOHEBIAETH YSGRIFENEDIG
3.1.4 Sefydlu dewis iaith ar gyfer gohebiaeth Hydref 03
3.1.5 Llythyrau safonol a chylchlythyrau dwyieithog Gorffennaf 04
3.1.7 Canllawiau ysgrifenedig ir staff Hydref 03
GALWADAU FFÔN
3.2.2 Cyfarchiad ffôn dwyieithog Hydref 03
3.2.3 Cynnig siaradwr Cymraeg Hydref 03 - gan ddibynnu ar argaeledd staff
3.2.4 Fel 3.2.3 Hydref 03 - gan ddibynnu ar argaeledd staff
3.2.5 Cyfeiriadur o siaradwyr Cymraeg Rhagfyr 03
3.2.6 Negesau dwyieithog ar beiriannau ateb Hydref 03
CYFARFODYDD CYHOEDDUS
3.3.1
3.3.2 Cyfleusterau cyfieithu a deunydd ysgrifenedig Parhaus
CYFARFODYDD ERAILL ÂR CYHOEDD
3.4.2 Sefydlu dewis iaith Parhaus
3.4.4 Rhannu gwybodaeth am ddewis iaith â phartner-asiantaethau
Hydref 03
DELWEDD GORFFORAETHOL
4.1.2 Delwedd ddwyieithog Parhaus
4.1.3 Enw yn y ddwy iaith ar arwyddion Parhaus
4.1.4 Penawdau llythyrau ac ati Parhaus
CYHOEDDI/DEUNYDD YSGRIFENEDIG
4.2.1 Cyhoeddiadau dwyieithog ar gyfer y cyhoedd Parhaus
4.2.2 Cyhoeddir ddwy iaith ar yr un pryd Parhaus
4.2.3 Cardiau adnabod Parhaus
4.2.4 Arddangos dogfennau dwyieithog Parhaus
4.2.5 Gwybodaeth asiantaethau allanol Parhaus
4.2.6 Deunyddiau arddangosfeydd Parhaus
4.2.7 Hysbysiadau dwyieithog ir wasg Parhaus
4.2.8 Hysbysebion a hysbysiadau dwyieithog Parhaus
4.2.9 Hysbysebu swyddi yn Gymraeg pan for Gymraeg yn hanfodol Parhaus
4.2.10 Cwblhau arolygon yn ddwyieithog Tachwedd 03
GWEITHREDU/MONITRO
STAFFIO
5.1.1 Mabwysiadu strategaeth sgiliau ieithyddol Rhagfyr 03
5.1.3 Archwiliad Sgiliau Rhagfyr 03
5.1.4 Monitro staff Cymraeg Chwe-misol - gan ddechrau Medi 03
5.1.5 Annog staff Cymraeg newydd Parhaus
HYFFORDDIANT
5.1.6 Cyfrannun ariannol at gost dosbarthiadau nos Parhaus - iw
adolygun flynyddol
5.1.7 Rhaglen ddysgu a hyfforddi Ionawr 04
5.1.8 Hyfforddiant galwedigaethol Chwefror 04
RECRIWTIO
5.1.9 Nodi gallu ieithyddol ar hysbysebion Parhaus
5.1.10 Hysbysebu fod croeso i siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad Parhaus
TREFNIADAU GWEINYDDOL
5.2.2 Ymgynghori âr staff ynghylch y polisi Mehefin 03 ymlaen
5.2.3 Adrodd ynghylch y cynnydd Blynyddol
5.2.4 Arweiniad ysgrifenedig ir staff Rhagfyr 03
CYFLAWNI GWASANAETHAU
5.3.1 Manylebau a threfniadau contract Ebrill 04
MONITRO
5.4.1 Datblygu systemau monitro Medi 03
5.4.2 Adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg Blynyddol
5.4.3 Cytuno ar y broses fonitro Medi 03
TARGEDAU
5.5.2 Adroddiad am gynnydd yn yr Adroddiad Blynyddol Blynyddol
CYHOEDDI GWYBODAETH
5.6.1 Adroddiadau Blynyddol am berfformiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar
Bwrdd Prawf Blynyddol
CYHOEDDUSRWYDD
5.7.1 Hysbysebur gwasanaethau sydd ar gael Rhagfyr 03
5.7.2 Cynnig dewis iaith yn swyddfeydd trwy gyfrwng posteri Rhagfyr 03
5.7.3 Canllawiau ir staff Tachwedd 03
5.7.6 Hysbysiadau yn gwahodd awgrymiadau ar gyfer gwellar cynllun
Rhagfyr 03
5.7.7 Monitro effeithiol, gan gynnwys cofnodi cwynion ac awgrymiadau ac
adolygiadau Parhaus
7.0
CYSYLLTU
Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y cynllun hwn, cynnig awgrymiadau ar
gyfer ei wella neu wneud cwyn yn ei gylch, a fyddech cystal â chysylltu
â:
Mrs Caroline Morgan
Prif Swyddog
Ymddiriedolaeth Prawf Dyfed Powys
Y Pencadlys
Heol Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PD
Ffôn: 01267 221567
Ffacs: 01267 221566
Yn
ôl i frig y dudalen
|