English

Neges gan Gadeiryd
Aelodau'r Bwrdd
Cofnodion y Bwrdd
Cyhoeddiadau
Perfformiad
Ad-dalu'r Gymuned
Asesiad OASys
Rheoli Troseddwyr
Ymyriadau
Partneriaeth
Gweithred C.T 2003
Cyllid
Recriwtiad
Rhyddid Gwybodaeth
Diogelu Data
Cynllun laith Gymraeg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Adsefydlu: Goruchwylio carcharorion cyn ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar

Mae rhai troseddau mor ddifrifol ac mae rhai troseddwyr mor anhydrin fel mai carchar yw’r unig ddewis sydd ar gael i’r llysoedd. Er hynny, mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn chwarae rhan weithgar. Mae staff y gwasanaeth prawf a gaiff eu secondio i garchardai yn helpu’r Gwasanaeth Carchardai i gynllunio a rheoli dedfrydau. Maent hefyd yn gweithio gyda throseddwyr tra’u bod yn y carchar ac yn eu goruchwylio dan drwydded ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Cafodd dros 87,000 o garcharorion a chyn-garcharorion eu goruchwylio gan staff y gwasanaeth prawf yn 2001

Mae pob carcharor sydd wedi’u dedfrydu i 12 mis neu fwy yn treulio cyfran o’r ddedfryd yn y ddalfa ac yna’n cael eu rhyddhau ar drwydded i’w goruchwylio yn y gymuned. Nod y goruchwylio ar ôl rhyddhau yw gwarchod y cyhoedd, atal rhagor o droseddu a sicrhau ailsefydlu’r troseddwr.

Neilltuir swyddog goruchwylio i garcharorion yn ardal eu cartref a bydd y swyddog hwnnw yn cadw cysylltiad â hwy yn ystod yr amser y maent yn y ddalfa. Bydd y swyddog goruchwylio yn trafod gyda’r carcharor ei g/chynllun ar gyfer yr amser pan gânt eu rhyddhau megis lle gallant fyw, a oes modd eu cartrefu mewn hostel gymeradwy, a oes ganddynt unrhyw gynllun i gael swydd neu unrhyw anghenion hyfforddi. Bydd staff y gwasanaeth prawf yn y carchar hefyd yn cynorthwyo gydag asesu unrhyw driniaeth neu anghenion datblygu eraill, megis mynd i’r afael â throseddu sy’n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol.

Yn nes at yr amser rhyddhau, mae swyddog goruchwylio’r gwasanaeth prawf yn asesu amgylchiadau cartref y carcharor ac yn ystyried pa drefniadau sydd angen eu rhoi ar waith i sicrhau y gall y troseddwr gydymffurfio ag amodau ei d/thrwydded. Mae’r swyddog prawf cartref yn gyfrifol hefyd am argymell i lywodraethwr y carchar a ddylai’r drwydded gynnwys unrhyw amodau ychwanegol, megis gofyniad i fynd ar raglen driniaeth yn y gymuned neu gadw draw oddi wrth bersonau neu lefydd penodol. Cyn i droseddwyr gael eu rhyddhau, mae’r staff yn y carchar yn esbonio amodau’r drwydded fel bod y troseddwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt.

Dylai’r cyfnod yn y ddalfa fod yn gyfle i droseddwyr bwyso a mesur beth sydd wedi achosi iddynt dorri’r gyfraith. Cyfle iddynt hefyd ddefnyddio adnoddau’r carchar a’r gymuned i roi sylw i’r materion hynny a meddwl am ffyrdd i newid eu ffordd o fyw. Gall hyn olygu mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau, llety gwael, cydberthnasau gwael neu ddiffyg sgiliau gwaith.

Os na fydd carcharor yn cydymffurfio â gofynion eu trwydded, gallant gael eu galw’n ôl i fwrw gweddill eu dedfryd yn y carchar.

 

Yn ôl