|
|
|
Gwybodaeth
i ddioddefwyr troseddau rhyw neu droseddau treisgar eraill
Rhyddhau
Carcharorion
1
Cyflwyniad
a
Dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 a Siarter y Dioddefwr
(gweler isod), bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn cysylltu â
chi i weld a hoffech chi wybod beth syn digwydd i droseddwr ar ôl
iddo ef/iddi hi gael eu dedfrydu i garchar.
b Gallwch ddisgwyl i aelod or Gwasanaeth Prawf gysylltu â
chi os yw un or canlynol yn berthnasol i chi:
-
Rydych wedi dioddef trosedd rhyw neu dreisgar y maer troseddwr
wedii ddedfrydu am un flwyddyn neu fwy i garchar neu sefydliad
troseddwyr ifanc am ei gyflawni. (yn y daflen hon, mae pob cyfeiriad
at garcharorion neu garchardai yr un mor berthnasol i droseddwyr ifanc
neu sefydliad troseddwyr ifanc, neu sefydliadau tebyg.)
- Mae
gennych berthynas agos gyda rhywun sydd wedi dioddef y math hwn o
drosedd ac syn agored i niwed, er enghraifft, plentyn neu berthynas
oedrannus ac rydych yn gweithredu ar eu rhan.
- Roedd
gennych berthynas agos gyda rhywun a fu farw yn sgîl y math
hwn o drosedd.
c
Gall y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol gynnig y gwasanaeth hwn hefyd os
ydych wedi dioddef troseddau difrifol eraill, er enghraifft, os ydych
chin ofni y bydd y troseddwr yn ceisio dod o hyd i chi. Fodd bynnag,
ni all y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol gynnig y gwasanaeth hwn os ywr
troseddwr wedi cael ei ddedfrydu i lai na 12 mis yn y carchar.
d Maer gweithdrefnau hyn yn berthnasol pan gaiff y carcharor
ei ddedfrydu i garchar yng Nghymru neu Loegr ac yn cael ei ryddhau i gyfeiriad
yn y gwledydd hyn. Nid ydynt yn berthnasol pan fydd troseddwr wedi cael
ei ddedfrydu i ysbyty, er bod y Llywodraeth yn trafod ffyrdd y gall y
sawl sydd wedi dioddef yn sgîl y troseddwyr hyn dderbyn neu ddarparu
gwybodaeth hefyd.
e Nid ywr gweithdrefnau hyn yn berthnasol ychwaith pan fydd
carcharor yn derbyn nifer o ddedfrydau am wahanol droseddau sydd, gydai
gilydd, yn gyfanswm o 12 mis neu fwy, oni bai fod un or dedfrydau
am 12 mis neu fwy am drosedd yn eich erbyn chi.
Mae
Siarter y Dioddefwr ar gyfer dioddefwyr troseddau. Fei cyhoeddwyd
ym Mehefin 1996 ac maen nodi safon y gwasanaeth y gallwch ddisgwyl
gan yr asiantaethau cyfiawnder troseddol (er enghraifft, yr heddlu, y
llysoedd) a sut i gwyno os nad ydych yn eu derbyn. Cyhoeddwyd dogfen ymgynghori
am y siarter yng ngwanwyn 2001 ac efallai y cyflwynir newidiadau ir
siarter yn sgîl hyn.
2
Pa mor hir fydd y carcharor yn y carchar?
a
Dan y gyfraith bresennol, nid yw carcharorion fel arfer yn bwrw eu dedfryd
gyfan yn y carchar. Maer mater o ryddhau carcharor yn dibynnu ar
hyd ei ddedfryd, pa mor hir y maent wedi bod yn y carchar cyn iddynt gael
eu dedfrydu ac a ydynt wedi pasio asesiad risg i gael eu rhyddhau ar drwydded
neu ar Gyrffyw Cadw yn y Cartref (syn golygu gwisgo tag electronig
i weld lle maent ar amser penodol gydar nos). Maer cyfnod
goruchwylio ar drwydded yn rhan bwysig o ddedfryd y carcharor. Maer
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn goruchwylior holl oedolion syn
garcharorion, a ddedfrydwyd i 12 mis neu fwy ar ôl Hydref 1992,
am gyfnod penodol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Caiff pob carcharor
ifanc eu rhyddhau ar drwydded au goruchwylion awtomatig ar
ôl cyfnod penodol. Rhoddir rhagor o fanylion am y trefniadau hyn
isod.
b Maer Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn gweithio gyda charcharorion
a charchardai i lunio cynllun ar gyfer goruchwylio troseddwyr ar ôl
iddynt gael eu rhyddhau. Mae hyn yn cynnwys cymeradwyo ble fydd carcharor
yn byw ac a fydd unrhyw gyfyngiadau yn berthnasol iddynt ar ôl eu
rhyddhau. Maer Gwasanaeth Prawf wedyn yn goruchwylio carcharorion
pan fyddant yn dychwelyd ir gymuned.
Carcharorion
dan ddedfryd oes
c Mae rheolau arbennig ar gael ar gyfer carcharorion
dan ddedfryd oes, na chaiff, o bosib, eu rhyddhau o gwbl os ystyrir eu
bod yn beryglus ir cyhoedd. Maer Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
yn goruchwylio pob carcharor dan ddedfryd oes ar drwydded oes. Hyd yn
oed ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, gellir anfon carcharorion dan
ddedfryd oes ir carchar ar unrhyw adeg yn ystod eu hoes os yw eu
hymddygiad yn achosi pryder difrifol.
Dedfrydau
eraill o 12 mis neu fwy
d Mae troseddwyr a gaiff eu dedfrydu i 12 mis neu fwy
yn dod dan ddau brif gategori arall.
Rhyddhau
awtomatig dan amodau
Fel
arfer, caiff troseddwyr syn bwrw dedfryd rhwng 12 mis a phedair
blynedd eu hystyried ar gyfer eu rhyddhau ar Gyrffyw Cadw yn y Cartref
ddeufis cyn pwynt hanner ffordd eu dedfryd. Ni all troseddwyr rhyw difrifol
wneud cais am Gyrffyw Cadw yn y Cartref. Maer penderfyniadau am
garcharorion eraill yn seiliedig ar asesiad risg trylwyr. Os gwrthodir
iddynt gael Cyrffyw Cadw yn y Cartref, rhaid rhyddhaur carcharorion
hyn hanner ffordd drwyu dedfryd. Maer Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
bob amser yn goruchwylior carcharorion hyn ar ôl iddynt gael
eu rhyddhau. Maer amser y bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn
goruchwylior carcharorion yn amrywio, gan ddibynnu ar a gawsant
eu rhyddhau ar Gyrffyw Cadw yn y Cartref ai peidio, ond gall barhau hyd
at ddiwedd eu dedfryd i rai troseddwyr rhyw. Os bydd troseddwr yn torri
unrhyw amod ou cyrffyw neu oruchwyliaeth, gallent gael eu hanfon
yn ôl ir carchar. Hefyd, os bydd y troseddwr yn cyflawni trosedd
newydd ar unrhyw adeg cyn diwedd y ddedfryd, gallent gael eu hanfon yn
ôl ir carchar tan ddiwedd eu dedfryd wreiddiol, ac hefyd fwrw
unrhyw ddedfryd newydd ar gyfer y trosedd newydd.
Ar gyfer troseddwyr syn cyflawni trosedd rhyw neu dreisgar, mae
gan y llysoedd y grym i ddweud bod rhaid iddynt gael eu goruchwylio am
gyfnod hirach hyd yn oed, ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, os ywr
llys yn meddwl fod angen gwneud hyn iw hatal rhag troseddu eto.
Caiff y troseddwyr hyn eu rhyddhau dan y trefniadau a nodwyd uchod, a
bwrwr cyfnod goruchwylio estynedig ar ben y cyfnod y disgwylid iddynt
ei fwrw ar drwydded. Mae amodaur drwydded yn berthnasol ir
cyfnod goruchwylio cyfan, ac efallai y caiff y troseddwr ei anfon yn ôl
ir carchar os ydynt yn torrir amodau hyn.
Rhyddhau
dewisol dan amodau
Mae
rhyddhau dewisol dan amodau yn berthnasol i droseddwyr syn bwrw
dedfryd sefydlog am bedair blynedd neu fwy. Bydd y carcharorion hyn yn
gymwys i gael eu rhyddhau o garchar (a elwir yn barôl) hanner ffordd
trwyu dedfryd, ac maen bosib y cânt eu rhyddhau ar barôl
ar unrhyw adeg rhwng hanner ffordd a dwy ran o dair. Mae penderfyniadau
parôl yn seiliedig ar asesiadau risg trylwyr. Os gwrthodir parôl
i garcharor, cânt eu rhyddhau pan fyddant wedi bwrw dwy ran o dair
ou dedfryd.
Pun ai y caiff y carcharor ei ryddhau ar barôl neu ar ôl
iddo/iddi fwrw dwy ran o dair ou dedfryd, byddair Gwasanaeth
Prawf Cenedlaethol yn dal iw goruchwylio hyd nes bydd tri chwarter
ou dedfryd wedi mynd heibio. Os bydd y troseddwr yn torri unrhyw
amod ou goruchwyliaeth, gallent gael eu hanfon yn ôl ir
carchar. Hefyd, os bydd y troseddwr yn cyflawni trosedd newydd ar unrhyw
adeg cyn diwedd y ddedfryd, gallent gael eu hanfon yn ôl ir
carchar tan ddiwedd eu dedfryd wreiddiol, ac hefyd fwrw unrhyw ddedfryd
newydd ar gyfer y trosedd newydd.
e
Os hoffech wybod mwy am y ddedfryd y bydd y carcharor yn eich
achos penodol chin ei bwrw, gallwch ofyn ir swyddog cyswllt
dioddefwyr pan fyddant yn cysylltu â chi.
3
Cyswllt Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
a
If Os ydych chi yn y gr_p o bobl a restrir ym mharagraff 1 b, bydd y Gwasanaeth
Prawf Cenedlaethol fel arfer yn ysgrifennu atoch chi o fewn 8 wythnos
ir troseddwr yn cael ei ddedfrydu. Byddant yn cynnig cwrdd â
chi at y dibenion canlynol.
I roi gwybodaeth i chi am ddedfrydau carchar yn gyffredinol a sut y gall
carcharorion fynd drwyr system.
I ofyn i chi a hoffech chi iddynt gysylltu â chi ar gamau allweddol
yn y broses cyfiawnder troseddol a dweud wrthych chi pan fydd y carcharor
yn cael ei ystyried ar gyfer ei ryddhaun derfynol.
I weld a oes gennych chi bryderon yr hoffech chi iddynt eu hystyried pan
fyddant yn trafod yr amodau ar gyfer rhyddhaur carcharor yn derfynol.
I roi enw rhywun i chi y gallwch chi gysylltu â hwy yn Swyddfar
Gwasanaeth Prawf yn eich ardal.
I esbonio sut byddant yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddwch chi.
I ddweud wrthych chi am unrhyw wasanaeth a all eich helpu chi.
4 Eich dewis chi i roi a derbyn gwybodaeth
Mae
gennych y dewisiadau canlynol.
a Gallwch ddewis cael gwybod am gamau yn y ddedfryd carchar (pan
fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud, o bosib, i ryddhau dros dro neun
barhaol), a mynegich barn am amodau a fydd yn berthnasol pan gaiff
y carcharor ei ryddhau neu faterion eraill.
b Gallwch ddewis cael gwybod am gamau yn nedfryd y carcharor, ond
penderfynu peidio â mynegich barn am amodau a fydd yn berthnasol
i ryddhaur carcharor.
c Gallwch ddewis peidio â derbyn unrhyw wybodaeth. Yn yr
achos hwn, dywedwch wrth eich swyddog cyswllt dioddefwyr.
Gallwch newid eich meddwl, unrhyw bryd, am gael rhywun yn cysylltu â
chi. Ond os ydych chin newid eich meddwl, neun newid eich
cyfeiriad, rhaid i chi ddweud wrth y swyddog cyswllt dioddefwyr ar unwaith.
5
Beth sy'n digwydd os ydych chin rhoi gwybodaeth
a
Os hoffech chi gael gwybod a rhoi gwybodaeth neu fynegi eich barn neu
bryderon, dylech ddweud wrth y swyddog cyswllt dioddefwyr yn eich cyfarfod
cyntaf. Bydd y canlynol yn digwydd os gwnewch chi hyn.
Bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn dweud wrthych chi pan fydd y troseddwr
yn cael ei ystyried ar gyfer ei ryddhau.
Bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn trafod eich safbwyntiau ach
pryderon gyda chi cyn ir carcharor gael ei ryddhau. Byddant hefyd
yn rhoi cyfle i chi fynegich barn am yr amodau a fydd yn berthnasol
pan gaiff y troseddwr ei ryddhau.
Cyn ir troseddwr gael ei ryddhau, maer Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
yn ysgrifennu adroddiad asesu ac ynddo byddant yn nodi eu hargymhellion
ir awdurdod syn ystyried yr amodau wrth ryddhaur troseddwr.
Bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn ystyried eich safbwyntiau wrth
argymell unrhyw amodau.
Bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn rhoi dewis i chi wybod beth sydd
wedii ysgrifennu amdanoch chi ach safbwyntiau mewn unrhyw
adroddiad asesu. Caiff yr adroddiad hwn ei ysgrifennu cyn rhyddhaur
troseddwr. Byddant hefyd yn dweud wrthych chi am unrhyw amodau rhyddhau
ychwanegol y maent yn eu hargymell, syn berthnasol ich pryderon.
Fel arfer, bydd gan y carcharor yr hawl i weld yr adroddiadau asesu, ac
eithrio dan amgylchiadau penodol. Bydd y swyddog cyswllt dioddefwyr yn
fodlon esbonio hyn i chi cyn i chi fynegich safbwyntiau.
Mae gennych yr hawl hefyd i roi gwybodaeth i lywodraethwr y carchar neur
bwrdd parôl, ond fel arfer bydd gan y carcharor yr hawl i weld y
wybodaeth hon. Gallwch drafod hyn gydar swyddog cyswllt dioddefwyr.
Unwaith y bydd y bwrdd parôl neu lywodraethwr y carchar wedi penderfynu
ar ryddhaur carcharor, bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn dweud
wrthych chi a ywr carcharor yn gorfod cadw at unrhyw amodau ar ôl
iddynt gael eu rhyddhau. Os ydynt, bydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
yn nodi manylion unrhyw amodau syn berthnasol i gysylltu â
chi, ac unrhyw wybodaeth arall y maent yn ei ystyried syn briodol
yn eich achos.
6
Llinell gymorth y Gwasanaeth Carchardai i ddioddefwyr
a
IOs ydych yn penderfynu peidio â chysylltu âr swyddog
cyswllt dioddefwyr, gallwch ffonior llinell gymorth hon os oes carcharor
wedi cysylltu â chi yn ddiangen (gan gynnwys llythyrau neu alwadau
ffôn) neu eich bod yn poeni y bydd hyn yn digwydd. Gallwch ddweud
wrth staff y llinell gymorth hefyd neu wrth eich swyddog cyswllt dioddefwyr,
os oes gennych un, os ydych yn pryderu ynghylch y posibilrwydd y caiff
carcharor ei ryddhau dros dro, ei ryddhau yn derfynol neu ei ryddhau ar
barôl.
b Bydd staff y llinell gymorth yn trosglwyddo manylion eich galwad
i lywodraethwr y carchar, a fydd wedyn yn ymchwilio ac yn penderfynu ar
ba gamau iw cymryd. Gallai hyn gynnwys archwilio unrhyw lythyr y
maer carcharor yn ei anfon a monitro eu galwadau ffôn iw
hatal rhag cysylltu â chi eto ac, os oes digon o dystiolaeth, gymryd
camau disgyblu neu gychwyn achos troseddol. Os oes carcharor wedi cysylltu
â chi, rhoddir ystyriaeth i hyn pan fyddant yn cael eu hystyried
ar gyfer parôl neu eu rhyddhau ar drwydded dros dro.
c Ni all staff y llinell gymorth drosglwyddo gwybodaeth yn ôl
i chi ond gallant gadarnhau, ar bapur, eu bod wedi trosglwyddo eich pryderon
ir llywodraethwr, a fydd, fel arfer, yn ysgrifennu atoch i ddweud
pa gamau a gymerwyd.
d 0845 7585112 yw rhif y llinell gymorth. Mae ar agor rhwng 9am
a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Pris galwad lleol a godir ar alwadau.
7
Beth all Cymorth i Ddioddefwyr ei gynnig
a
Elusen genedlaethol yw Cymorth i Ddioddefwyr syn helpu dioddefwyr
troseddau. Mae gwirfoddolwyr a staff hyfforddedig syn gweithio mewn
cynlluniau lleol yng Nghymru a Lloegr yn cynnig cefnogaeth emosiynol,
gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl sydd wedi dioddef troseddau. Digon
posib eich bod chi eisoes wedi bod mewn cysylltiad âch Swyddog
Cyswllt Dioddefwyr. Mae Cymorth i Ddioddefwyr hefyd yn rhedeg Gwasanaeth
i Dystion yn Llys y Goron ac yn y Llysoedd Ynadon.
b Os hoffech chi drafod y daflen hon, neu eich bod angen cymorth
i ddygymod ag effaith y trosedd arnoch chi, neu os hoffech chi siarad
yn gyfrinachol ac am ddim gyda rhywun annibynnol, gallwch gysylltu âch
cynllun lleol. Maer manylion yn y llyfr ffôn dan Cymorth
i Ddioddefwyr (Victim Support), neu gallwch gysylltu â Llinell
Gymorth i Ddioddefwyr ar 0845 3030900 i gael y rhif lleol. Pris galwad
lleol a godir ar alwadau.
Yn
ôl
|